Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 7 Mawrth 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, diben y grant gwella addysg yw cynorthwyo'r consortia rhanbarthol i wella canlyniadau i bob dysgwr. Mae'r ysgol gyfun orau yng Nghymru, Pontarddulais, yn fy rhanbarth i, ond mae hefyd yn cynnwys un o'r ysgolion sy'n perfformio waethaf, ychydig filltiroedd yn unig i lawr y ffordd. Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu cael gwared ar y fath wahaniaeth mewn cyrhaeddiad o fewn consortia rhanbarthol?