Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 7 Mawrth 2018.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn gwrando ar eich atebion i Darren Millar yn gynharach, ac fe ymrwymoch chi £5 miliwn o'ch cronfeydd wrth gefn ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19 er mwyn caniatáu ar gyfer yr effaith ar awdurdodau lleol trefol. Ond ymddengys, yn ôl eich ateb i Darren Millar, fod y ffigur hwnnw bellach yn £7.5 miliwn. Sut rydych yn bwriadu cefnogi dysgwyr yng nghanolbarth a gogledd Cymru, ac yn benodol, faint o'r £2.5 miliwn hwnnw y cyfeirioch chi ato'n gynharach a fydd yn cefnogi dysgwyr ym Mhowys?