Darpariaeth Llaeth am Ddim mewn Ysgolion

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:05, 7 Mawrth 2018

Diolch am yr ateb ac rwy’n falch bod trafodaethau yn cymryd lle, ond ar hyn o bryd, mae llaeth am ddim yn y cyfnod sylfaen, yn benodol oherwydd buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Mae llaeth wedi’i sybsideiddio yn yr ysgolion cynradd oherwydd rŷm yn rhan o gynllun yr Undeb Ewropeaidd, ac, wrth gwrs, mae llaeth mewn ysgolion nid yn unig yn faeth—yn ychwanegu at faeth plant ysgol—ond mae hefyd yn dangos o ble mae bwyd yn dod. Mae’n ffordd inni ddysgu am rôl bwyd yn ein bywydau ni bob dydd.

Rwy’n deall bod yn rhaid ichi drafod hwn ar lefel Prydeinig, ond rwyf hefyd yn meddwl ei fod yn bwysig bod y Llywodraeth bresennol, Llywodraeth Cymru, yn gwneud datganiad eich bod chi am barhau, beth bynnag a ddaw, gyda’r system llaeth presennol, achos rwy’n meddwl dyna’r sicrwydd mae rhieni, ysgolion a'r gymuned ehangach yn dymuno ei weld.