Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 7 Mawrth 2018.
Diolch, Mark. Rwy'n dechrau o'r sail y dylai pob cymhwyster fod ar gael i bawb, ac ni chredaf y byddai unrhyw un ohonom yn awyddus i ddechrau o'r amod o ddweud bod rhai grwpiau penodol o ddysgwyr na allant fanteisio ar gymhwyster penodol. Mae'n rhaid inni ddechrau ar sail tegwch.
Fodd bynnag, buaswn yn disgwyl i benaethiaid ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol wrth benderfynu pa ddysgwyr a ddylai ymgymryd â bagloriaeth Cymru ar y lefel berthnasol, yn ôl y llwybr dysgu unigol, a pha gymorth y gall fod ei angen ar ddysgwyr unigol i'w galluogi i gael mynediad at gymhwyster a allai fod o fudd iddynt. Ond mae'n rhaid i hynny ddibynnu ar grebwyll proffesiynol yr athrawon sy'n gweithio gydag unigolion a theuluoedd.