Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 7 Mawrth 2018.
Diolch, Mr Bennett. Mae gan ddysgwyr gyfle i astudio gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth fel rhan o fagloriaeth Cymru ac mewn addysg bersonol a chymdeithasol. Mae sicrhau bod dysgwyr yn dod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus yn un o bedwar diben y cwricwlwm newydd. Bydd addysg wleidyddol a dinasyddiaeth yn rhan ganolog o'r gwaith o gefnogi hyn.