Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 7 Mawrth 2018.
Gwnaf, wrth gwrs. Rydym yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn y llwybr strategol hwn yng ngogledd Cymru. Rydym yn gwario £40 miliwn ar uwchraddio cyffyrdd 15 a 16, £250 miliwn arall ar brosiect coridor Glannau Dyfrdwy a Sir y Fflint, ac yn edrych ar gyflymu'r broses o greu trydydd croesiad y Fenai. Wrth gwrs, mae'r ffordd yn rhan o Ffordd Cymru—strategaeth i hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru—ac mae'n cael ei marchnata'n genedlaethol ac yn rhyngwladol fel coridor diwylliant.