Ffordd Liniaru'r M4

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:51, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Gallaf gadarnhau y byddwn yn cyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth ar goridor yr M4 o gwmpas prosiect Casnewydd yn dilyn casgliad yr ymchwiliad cyhoeddus lleol. O ystyried goblygiadau cyfreithiol ymchwiliad cyhoeddus parhaus, rydym ar hyn o bryd yn ystyried opsiynau sydd ar gael i ni yn ogystal ag amseriad y ddadl hon, wrth gwrs, a byddaf yn hysbysu'r Cynulliad am y cynlluniau hynny yn syth ar ôl iddynt gael eu cwblhau.