Y Depo Gwasanaethu Arfaethedig i Fetro De Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:48, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am ei gwestiwn? Rwy'n cydnabod ei fod wedi siarad am y pwnc hwn yn rheolaidd a chydag ymroddiad mawr. Rwy'n falch o allu dweud bod y cyfnod cyn ymgeisio statudol o bedair wythnos ar gyfer y depo arfaethedig wedi dod i ben ddiwedd mis Chwefror. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ystyried sylwadau'r gymuned yn ofalus. Cynhaliwyd ymgynghoriad ac chymerodd ymgyngoreion statudol ran yn y broses hefyd. Rydym yn bwriadu cyflwyno adroddiad cyn ymgeisio cryno ynghyd â chais cynllunio amlinellol llawn ar gyfer depo posibl i'r awdurdod cynllunio lleol cyn bo hir.