Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 7 Mawrth 2018.
Ni chredaf y byddai unrhyw un yn y Siambr yn anghytuno â'r honiad fod angen buddsoddiad a gwaith uwchraddio ar yr A55. Rwy'n falch ein bod, dros y misoedd diwethaf, wedi gallu osgoi cau wedi'i gynllunio ar yr A55 yn ystod y dydd. Bydd lonydd yn parhau i gau yn y nos hyd at fis Medi eleni heb unrhyw gynlluniau i gau lonydd yn ystod y dydd. Ond rwyf hefyd yn cydnabod, ar yr un pryd, fod angen uwchraddio rhannau mawr o'r A55 a rhoi'r amcanion a'r argymhellion a nodwyd yn yr astudiaeth gydnerthedd ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir ar waith.
O ran y 55 achos o gau, gellir dweud bod y mwyafrif helaeth ohonynt wedi digwydd o achos damweiniau, digwyddiadau, torri lawr oherwydd—credwch neu beidio, achosir cyfran o ddigwyddiadau o geir yn torri lawr gan fodurwyr yn rhedeg allan o danwydd. Ond digwyddodd llawer ohonynt o ganlyniad i waith dros nos a gynlluniwyd.
Nawr, credaf ei bod yn hanfodol inni edrych ar y cynnydd a wneir dros y misoedd nesaf, a barnu wedyn ar sail gweithredu'r atebion cyflym a yw Llywodraeth Cymru wedi llwyddo neu fethu. Gallaf ddweud fod gwaith ar osod offer teledu cylch cyfyng di-wifr yn mynd rhagddo ym mis Ebrill; o ran y feddalwedd synhwyro digwyddiadau, rydym yn treialu system; o ran gwaith swyddogion traffig, gyda'r oriau estynedig, rydym yn recriwtio swyddogion traffig ychwanegol ar hyn o bryd—ac mae'r un peth yn wir am yr uned swyddogion traffig ychwanegol—ac rydym hefyd yn disgwyl, erbyn diwedd mis Mawrth, y bydd swyddogion traffig ychwanegol yn ymestyn eu gwaith hyd at gylchfan y Gledryd ar yr A483, gan gwmpasu'r ardal enfawr honno, yr A55 ac i lawr.
Rwy'n falch o allu dweud ein bod yn disgwyl i amserlen y ffyrdd gael ei lansio ym mis Ebrill. Rydym yn cynnal trafodaethau ar hyn o bryd gyda darparwyr data. O ran y cynllun treialu achub cerbydau rhad ac am ddim a nodwyd yn yr astudiaeth gydnerthedd, rydym yn adolygu ystadegau digwyddiadau hanesyddol ar hyn o bryd i weld lle a phryd y gallai hyn ddarparu rhywfaint o fudd. Cafwyd argymhelliad hefyd i ddarparu unedau symudol ychwanegol, ac rydym bellach wedi rhentu chwe arwydd symudol, a byddant yn cael eu cyflenwi cyn bo hir. Rydym hefyd wedi cyflogi rheolwr cyfathrebu, a nodwyd fel rôl hollbwysig. O ran dadansoddi perfformiad, rydym yn disgwyl y byddwn wedi gallu cwblhau'r ymdrech gaffael a fydd yn caniatáu hynny ym mis Ebrill. O ran y cynllun treialu camau i orfodi cyflymder cyfartalog ar Allt Rhuallt, unwaith eto, byddwn yn ei roi ar waith ym mis Ebrill neu fis Mai eleni, ac yna, yn olaf, roedd y mesur tymor byr terfynol a argymhellwyd yn ymwneud â chyfyngiadau ar gerbydau araf. Ar hyn o bryd, rydym yn nodi'r union ddiffiniad y dylid ei ddefnyddio ar gyfer cerbydau araf. Gallai'r gwaith hwnnw gymryd peth amser. Mae angen inni sicrhau bod y goblygiadau cyfreithiol yn gwbl glir cyn inni roi unrhyw gyfyngiadau ar symudiad cerbydau ar waith.