Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 7 Mawrth 2018.
Wel, ie. Yn amlwg, byddai Bil yn caniatáu inni fynd i'r afael â'r ystyriaethau lles anifeiliaid ehangach, lle bydd yn rhaid targedu adran 12 yn benodol ar fater lles anifeiliaid penodol. A yw hi, o leiaf, yn gallu dweud wrthym beth yw ei syniadau ar hynny ar hyn o bryd? Oherwydd rwy'n credu mai'r pryder o amgylch y Siambr yw nad ydym eisiau gadael i rywbeth y gallwn ei wneud yn awr gael ei ohirio oherwydd bod gennym agenda ehangach sydd angen ei chyflawni dros gyfnod hwy o amser.