Brexit

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 1:35, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, rydych chi a minnau yn cytuno y dylai'r pwerau sydd gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd ddod i Gymru yn eu cyfanrwydd. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae'n rhaid i'r DU a Chymru fod allan o farchnad sengl yr UE. A wnewch chi nawr, o'r diwedd, amlinellu safbwynt eich Llywodraeth: aelodaeth o'r farchnad sengl neu reolaeth lawn dros feysydd datganoledig?