Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:45, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, os edrychwn ni ar y ffigurau, fe welwn fod amseroedd ymateb ambiwlansys wedi gwella, ac mae ef wedi cydnabod hynny. Rydym ni'n gweld gwelliannau o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, yn gweld gwelliannau o ran diagnosteg, yn gweld gwelliannau o ran amseroedd atgyfeirio i driniaeth, ond bydd adegau pan fydd rhai pobl yn cael eu heffeithio'n andwyol, ac mae angen edrych arnyn nhw'n ofalus iawn a'u hymchwilio, a dysgu gwersi o'r achlysuron hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y pwysau ariannol ar y GIG yn sylweddol bob amser, ac mae'r rhain yn bwysau ariannol sy'n bodoli ar draws y DU gyfan. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod digon o arian ar gael ar gyfer GIG Cymru. Rydym ni mewn sefyllfa lle, yn weddol fuan, y byddai'r GIG yn cymryd hanner ein hadnoddau, ac, fel pleidiau gwleidyddol, rwy'n credu bod yn rhaid i ni edrych yn ofalus iawn—ac mae'r arolwg seneddol, a bod yn deg, wedi gwneud hyn—ar sut yr ydym ni'n dyrannu adnoddau i'r GIG yn y dyfodol, sut yr ydym ni'n cael gwared ar dagfeydd, os oes rhai, a sut yr ydym ni'n datblygu GIG sydd â chefnogaeth y cyhoedd ar draws y pleidiau gwleidyddol.