Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:40, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, nid oes gen i unrhyw reswm i amau yr enghreifftiau a nodwyd gan arweinydd yr wrthblaid, ac mae angen ymchwilio i'r enghreifftiau hynny, wrth gwrs, ac ymchwilio iddynt yn llawn. A gaf i ddweud bod y model amseroedd ymateb ambiwlansys wedi ei ddyfeisio gan glinigwyr? Bwriedir iddo sicrhau bod y rhai sydd fwyaf angen ambiwlans yn cael ambiwlans. Rydym ni'n gwybod bod amseroedd ymateb ambiwlansys wedi gwella'n fawr dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ers dros flwyddyn erbyn hyn, yn wir, ond bydd enghreifftiau y mae wedi cyfeirio atynt y bydd angen eu hystyried i weld pam mae sefyllfa o'r fath wedi codi.

Mae'n iawn i ddweud y bu llawer iawn o bwysau ar y GIG ac, yn wir, ar ambiwlansys ledled y DU dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn arbennig, ac, wrth gwrs, cafodd y cyfnod oer yr wythnos diwethaf effaith, yn enwedig ar dderbyniadau strôc , lle bu cynnydd sylweddol i nifer y bobl a oedd wedi cael strôc oherwydd y tywydd oer.

Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, wrth gwrs, yw ceisio sicrhau bod achosion unigol yn cael eu hystyried. Pan ddaw i'r model gwirioneddol a ddefnyddir, mae'n fodel a ddyfeisiwyd gan glinigwyr.