Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:48, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb rhesymol iawn yna. Un peth yr oeddwn i'n cytuno â Jeremy Corbyn yn ei gylch o ganlyniad i'r ddadl ddoe oedd hyn: dywedodd fod yn rhaid cael deialog gadarn â Rwsia ar yr holl faterion—domestig a rhyngwladol—sy'n rhannu ein gwledydd ar hyn o bryd, yn hytrach na thorri cysylltiad.

Os yw hynny'n wir am Rwsia, mae'n fwy gwir fyth efallai am ein perthynas â'r Unol Daleithiau. Yr Unol Daleithiau yw ein cynghreiriad pwysicaf, ac er bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi newid yn ystod heddiw, dywedodd Rex Tillerson yn ddiweddar

Rydym ni'n sefyll fel un gyda'n cynghreiriaid yn y Deyrnas Unedig a bod yr hyn a ddigwyddodd yn Nghaersallog yn weithred ddybryd iawn a bod Rwsia'n dod yn fwy ymosodol yn peri gofid mawr iddo. Nid oes unrhyw reswm i gredu y bydd polisi gweinyddiaeth America yn newid gydag Ysgrifennydd Gwladol newydd.

Onid yw'n ddyletswydd, felly, ar bob gwleidydd Llafur uwch roi'r ystyriaeth fwyaf gofalus i'n buddiannau gyda'r Unol Daleithiau a'n perthynas ddiplomataidd â nhw, ac i roi terfyn ar y galw enwau plentynnaidd ar yr Arlywydd ac eraill yn ei weinyddiaeth y maen nhw'n digwydd anghytuno â nhw yn wleidyddol? Buddiannau Prydain ddylai ddod yn gyntaf.