Rheilffyrdd Treftadaeth

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 1:56, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, wrth ysgrifennu yn rhifyn mis Tachwedd diwethaf o gylchgrawn 'Heritage Railway', cyfeiriodd ei olygydd, Robin Jones, at ymgyrch fawr Rheilffordd Llangollen i Gorwen Canolog, yn ogystal â'r estyniad i Reilffordd Llyn Tegid, gan amlygu'r manteision economaidd lu i gynghorau lleol ac eraill y gall rheilffyrdd treftadaeth eu sicrhau. Pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd felly i sicrhau gwell dealltwriaeth, ar bob lefel o weithgarwch llywodraeth a busnes, y manteision y gall rheilffyrdd treftadaeth, fel Rheilffordd Llangollen, eu cynnig i'r ardaloedd y maen nhw'n eu gwasanaethu?