Brexit

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:38, 13 Mawrth 2018

Na, ni fyddai'r sefyllfa yna yn dderbyniol i ni, ac fe wnes i drafod hwn gyda Nicola Sturgeon ddoe. Rydym ni yn gwmws yn yr un lle, sef nad yw hi'n ddigonol bod y pwerau yn aros mewn un lle, gan wedyn gweld y pwerau hynny yn cael eu defnyddio mewn ffordd sydd ddim o les i Gymru na'r Alban. Felly, nid oes yna obaith o gwbl ein bod ni'n cytuno i unrhyw beth a fyddai'n rhoi unrhyw fath o ganiatâd, neu law rydd, i Lywodraeth San Steffan newid cyfreithiau eilradd heb unrhyw fath o ganiatâd gan Gymru neu'r Alban.