Dull Ataliol o Ymdrin â Iechyd Gwael

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:15, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl, rhoddodd Sophie Howe yn ei swydd fel Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru dystiolaeth wrth wynebu craffu gan y Pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Soniodd ei bod yn cynnig i Lywodraeth Cymru y dylid clustnodi arian newydd i faes iechyd ar gyfer yr agenda ataliol, ac yn amodol ar waith ar y cyd rhwng cyrff iechyd a chyrff eraill mewn ymgais i roi'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar sylfaen mwy ataliol a rhagweithiol, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ymddengys bod consensws fod angen i ni fod yn fwy rhagweithiol ar gyfer atal iechyd gwael, gan hefyd, wrth gwrs, ymdrin â phwysau iechyd o ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos y mae pobl yn disgwyl i ni ymdrin â nhw. A fyddech chi'n cefnogi'r cynnig hwnnw i ddefnyddio arian newydd yn y ffordd honno?