Papur Gwyn ar Ddiwygio Llywodraeth Leol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Ydy, mae'n anodd gwybod, heb edrych ar y dystiolaeth yn llawn, pam y cafwyd y sefyllfa honno yn Norwy ac Estonia. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw cynnig cymaint o ddulliau pleidleisio i bobl ag sy'n rhesymol, i roi cymaint o gyfle â phosibl iddyn nhw bleidleisio. Rydym ni wedi pleidleisio ar ddydd Iau yn y wlad hon yn hanesyddol—nid bob amser, fel y mae'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn gwybod. Ond, er enghraifft, mae gwledydd eraill yn pleidleisio ar y penwythnos. Y rheswm pam nad ydym ni erioed wedi cael pleidleisiau ar ddydd Sul yw na fyddai fy nhad-cu wedi pleidleisio ar ddydd Sul, i fod yn blwmp ac yn blaen—Sabathyddiaeth. Nid wyf i'n siŵr ein bod ni mewn sefyllfa debyg i honno nawr. Felly, rwy'n meddwl bod angen i ni ystyried pa un ai pleidleisio ar y penwythnos yw'r ffordd ymlaen. Wrth gwrs, ceir rhai pobl sy'n gweithio ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul, ond byddai hyblygrwydd yno, pleidleisio electronig, pleidleisio drwy'r post—mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni'n edrych ar gynifer o ddulliau â phosibl i alluogi pobl i bleidleisio cyn belled â bod y dulliau hynny yn ddiogel.