Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 13 Mawrth 2018.
Roeddech chi’n sôn fy mod i wedi gofyn yr wythnos diwethaf. Pan wnes i ofyn am hyn, am yr u-bedol y mae eich Llywodraeth chi wedi ei wneud, fe ddywedoch chi
'nid yw'r sefyllfa wedi newid ynglŷn â'r ffordd ymlaen.'
Roedd hyn yn awgrymu i mi nad oeddech chi’n ymwybodol o ddatganiadau diweddar eich Ysgrifennydd Cabinet Alun Davies, ac mae hyn yn rhyfeddol i mi, ac yn awgrymu 1) nad ydych chi’n cymryd llawer o ddiddordeb mewn llywodraeth leol, sef y rhwyd sy’n cadw ein pobl fwyaf bregus yn ddiogel, a 2) nad oedd unrhyw drafod wedi bod yn eich Cabinet chi am y newid cyfeiriad presennol. Felly, a fedrwch chi ein goleuo ni ychydig bach yn fwy nag yr ydych chi wedi ei wneud yn barod ynglŷn â’r cyfeiriad y byddwch chi’n ei gymryd fel Llywodraeth?