Rhwydwaith Mamolaeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Rydym ni'n gwybod bod achosion marw-enedigaeth yn amlochrog, gyda rhai ffactorau nad ydym yn eu deall o hyd. Felly, mae'r gwaith a wnaed gan Emma Mills ac eraill yn hanfodol os ydym ni'n mynd i sicrhau gostyngiad sylweddol i nifer y marw-enedigaethau. Ceir gwaith ar y cyd, sy'n cynnwys y rhwydwaith mamolaeth, Sands a gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru, ac mae hynny wedi arwain at ddatblygu amrywiaeth o ymyraethau. Mae'r arwyddion cynnar yn dangos gostyngiad i nifer y marw-enedigaethau—arwyddion cynnar ar hyn o bryd, ond mae'n ymddangos eu bod nhw'n rhoi darlun sy'n gwella i ni.

Un peth yr wyf i'n ei gredu sy'n bwysig hefyd yw ei bod hi'n bwysig bod gan bobl sy'n dioddef effeithiau marw-enedigaeth wasanaethau cymorth profedigaeth ar gael iddynt. Rwyf i wedi gweld hyn gyda'm llygaid fy hun, lle mae pobl yn teimlo eu bod nhw wedi colli rhywun—nid ydyn nhw'n ei weld fel marw-enedigaeth, maen nhw'n ei weld fel plentyn. Mae'n hynod bwysig felly bod gwasanaethau profedigaeth ar gael. Mae'n rhan o'r rhan graidd o wasanaethau mamolaeth yng Nghymru erbyn hyn, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n credu sy'n aruthrol o bwysig i'r rheini sy'n dioddef cymaint o ganlyniad i farw-enedigaeth.