Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 13 Mawrth 2018.
Diolch i chi, Madam Llywydd. Prif Weinidog, mae nifer y bobl sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru wedi dyblu bron yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Gwent sydd â'r nifer uchaf o achosion yng Nghymru, gan fod gwaith ymchwil yn dangos bod 8 y cant o boblogaeth ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn byw â diabetes. A all y Prif Weinidog gadarnhau bod y strategaeth gordewdra genedlaethol yn cwmpasu dulliau atal yn ogystal â thriniaeth, ac a wnaiff ef ymrwymo ei Lywodraeth i dargedu arian yn enwedig i ardaloedd â chanran uchel o ddiabetes fel y de-ddwyrain?