Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 13 Mawrth 2018.
Wel, mae'r menywod o'm hamgylch ar y fainc flaen i gyd wedi dweud 'ydy' i hynny. Maen nhw'n fwy na hapus i fod yn nwylo bydwraig, ac mae bydwragedd, wrth gwrs, yn hollol gymwys i ymdrin â'r mwyafrif llethol o enedigaethau. Pan fo achosion pan fydd genedigaethau yn fwy anodd, yna, wrth gwrs, bydd mamau fel rheol—mae'n cael ei gynllunio, a dweud y gwir; mae hyn yn cael ei gynllunio fel rheol—yn cael eu trosglwyddo i unedau mamolaeth sydd â gwasanaethau mwy arbenigol. Ond mae bydwragedd yn darparu gwasanaeth ardderchog i ni.