2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:35, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i alw am un datganiad gan Lywodraeth Cymru i roi diweddariad ar y gwasanaeth awtistiaeth integredig, yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar 1 Mawrth 2018, ' Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a Chynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig: Adroddiad Interim'? Mae'r canfyddiadau yn hwn yn cynnwys gwendidau ac anghysondebau yn y gwasanaethau asesu diagnostig i oedolion ag awtistiaeth, ac mewn gwasanaethau cymorth ar gyfer oedolion a phlant ag awtistiaeth. Mae'n nodi y disgwylir i'r pwyslais ar gyd-gynhyrchu ac atal yn helpu i wella effeithiolrwydd a lleihau galw, a disgwylir y bydd integreiddio yn helpu i sicrhau'r cydweithrediad gorau posibl a chreu gwasanaethau mwy di-dor. Fodd bynnag, mae tystiolaeth o'r effaith a'r effeithlonrwydd a gynhyrchir gan integreiddio yn dal i fod yn wan. A dyma ddyfyniad terfynol:

'Mae llwyddiant yn gofyn am ddull cyd-gynhyrchiol sy'n cynnwys staff, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i ddylunio, gweithredu a gwerthuso' y gwasanaeth, ond ceir

'pryderon bod y dull "o'r brig i lawr" ... wedi mygu hyn.'

Gan gydnabod mai pobl sy'n byw yn y gymuned awtistiaeth, pa un a ydynt ar y sbectrwm, neu eu teuluoedd neu eu gofalwyr, yw'r arbenigwyr go iawn yn eu bywydau eu hunain, ac er bod pob un yn unigryw fel unigolyn, fel pawb arall, dim ond nhw sy'n gallu wir gyflawni ymwybyddiaeth effeithiol o awtistiaeth i helpu darparwyr y sector cyhoeddus, ac eraill, i weld y byd trwy eu llygaid hwy. Galwaf am ddatganiad yn unol â hynny, gan fod yr adroddiad hwn yn sylweddol, ac yn haeddu craffu priodol gan y tŷ hwn.