2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:42, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, gresynus iawn yw ein bod yn y sefyllfa hon o hyd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi datgan ei pharodrwydd i hwyluso unrhyw gyfarfod o'r fath—i'w lywyddu a gwneud unrhyw beth angenrheidiol i'w ddwyn ynghyd.  Rwy'n siwr y buasai hi'n gallu ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw yng ngoleuni'r hyn a ddigwyddodd yng Nghaerdydd y bore yma, a byddaf yn siŵr o ofyn iddi wneud hynny cyn gynted â phosibl.