Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 13 Mawrth 2018.
Diolch. Ie, mae'r Aelod yn hollol iawn—mae'r ymgynghoriad pwysig iawn ar leoliad y gwasanaeth newydd ar gyfer trawma mawr yn ne Cymru newydd gau, ac roeddwn i'n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod y Llywodraeth wedi cael nifer fawr iawn o ymatebion. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad ar ganlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw a chynnwys yr ymatebion i'r ymgynghoriad, cyn bo hir.