Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 13 Mawrth 2018.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da. Rwy'n deall y bu ymgynghori helaeth pan mai Alun Davies oedd y Gweinidog â chyfrifoldeb am hyn. Mae'r amserlen ar gyfer craffu yn brin. Rydym ni'n dioddef gwir anawsterau o ran amserlennu busnes yn y Senedd ar hyn o bryd, ond byddaf yn trafod hyn ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, ac, yn wir, gyda'r Llywydd a rheolwyr busnes, ddydd Mawrth nesaf, i weld beth y gellir ei wneud, yng sgil sylwadau'r aelod.