4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Ymchwiliad y DU i Waed wedi'i Heintio

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:32, 13 Mawrth 2018

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yna. Mi hoffwn innau ddatgan fy niolch a'm edmygedd i'r grŵp o ymgyrchwyr sydd wedi bod mor ddygn dros gyfnod llawer rhy hir yn cyflwyno'u dadl efo penderfynoldeb ac urddas y dylid cael yr ymchwiliad rydyn ni ar fin ei gael. Mi rydw i wedi dod i nabod sawl un ohonyn nhw drwy'r grŵp trawsbleidiol. Mi liciwn i dalu teyrnged i'r unigolion hynny sydd wedi siarad drwy eu poen oherwydd yr hyn maen nhw wedi byw drwyddo fo dros y degawdau diwethaf. Mi wnaf enwi Lynne Kelly yn benodol am y gwaith mae hi wedi bod yn ei wneud yn arwain a chydlynu'r ymgyrch. Ac rwy'n falch eich bod chi fel Ysgrifennydd Cabinet wedi gallu dod i, o bosib, y cyfarfod lle daeth y mwyaf o unigolion iddo fo, a lle roedd y neges mor glir fel na allech chi fel Ysgrifennydd Cabinet beidio ag ymuno a bod yn gefn iddyn nhw yn eu hymgyrch. Ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu gweithredu yn drawsbleidiol, nid yn unig drwy'r grŵp trawsbleidiol, ond hefyd chithau a ninnau fel llefaryddion yn siarad ag un llais. 

Hefyd, mae'n werth pwysleisio bod y grŵp trawsbleidiol yma yn y Cynulliad wedi bod yn benderfynol o'r cychwyn, oherwydd arweiniad yr ymgyrchwyr, y dylid cael aelod o'r farnwriaeth—y dylid cael barnwr yn arwain yr ymchwil. Nid oedd eraill yn meddwl bod hynny'n gwbl bwysig. Rwy'n siŵr bod rhesymau da iawn ganddyn nhw dros gymryd barn wahanol, ond mi roedd yr ymgyrchwyr yma yng Nghymru yn benderfynol, ac mi roeddwn i'n falch o glywed y datganiad ynglŷn â phenodiad Mr Justice Langstaff. 

Dau gwestiwn. Yn gyntaf, a ydych chi fel Llywodraeth yn mynd i ystyried eich hunain yn rhanddeiliaid yn y broses sy'n digwydd rŵan? Oherwydd mae eisiau i'r rhanddeiliaid i gyd, yn cynnwys, rwy'n gobeithio, Llywodraeth Cymru, a ninnau fel Aelodau o'r Senedd yma, drio cyfrannu at y gwaith a fydd yn mynd ymlaen drwy'r ymchwiliad. Ac mi hoffwn i weld sut fyddwch chi'n bwydo i mewn i'r gwaith o helpu'r barnwr Mr Justice Langstaff i lunio'r cylch gorchwyl.

Ac o ran y cylch gorchwyl ei hun, un cwestiwn penodol: a ydych chi'n credu y dylid edrych y tu hwnt i'r hyn ddigwyddodd yn ôl yn y 1970au a'r 1980au, sef gwraidd y sgandal? Oedd, mi roedd hi'n sgandal beth ddigwyddodd bryd hynny o ran heintio gwaed, ond mae wedi bod yn sgandal, wrth gwrs, sut rydym ni wedi gallu peidio â dod at y pwynt yma tan y flwyddyn 2018. Felly, mi fyddai gen i ddiddordeb mewn gwybod sut rydych chi am drio dylanwadu fel Llywodraeth ar ffurfio'r cylch gorchwyl yna. Ond, unwaith eto, rydym ni'n symud i'r cyfeiriad iawn, ac mae'r ymgyrchwyr yng Nghymru yn cadw'r maen i'r wal ac yn cadw'r pwysau ymlaen wrth iddyn nhw chwilio am yr atebion maen nhw'n eu haeddu.