5. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:56, 13 Mawrth 2018

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i agor y drafodaeth hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) drwy gydnabod yr her sylweddol a oedd yn wynebu Aelodau'r Cynulliad wrth geisio mynd i'r afael â darn mor gymhleth o ddeddfwriaeth arfaethedig mewn cyfnod mor fyr o amser.