5. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:10, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ers cyhoeddi'r Papur Gwyn ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) gan Lywodraeth y DU ym mis Gorffennaf y llynedd, mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi gwneud rhywfaint o waith craffu manwl ar y Bil ymadael a'i oblygiadau ar gyfer Cymru. Yn ein hadroddiad ar y Papur Gwyn, daethom i'r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru baratoi Bil parhad fel sefyllfa wrth gefn pe na byddai Llywodraeth y DU yn parchu'r setliad datganoli yn y Bil ei hun. Roeddem ni, bryd hynny, yn gobeithio'n ddiffuant na fyddai hyn yn angenrheidiol. Mae'n anffodus iawn bod y sefyllfa wrth gefn hon bellach yn angenrheidiol, oherwydd methiant Llywodraeth y DU i ddrafftio'r Bil ymadael mewn modd sy'n parchu datganoli mewn gwirionedd ac, ymhellach, yn dilyn gwrthod gwelliannau i'r Bil wrth iddo fynd ar ei hynt drwy'r Tŷ Cyffredin.

Mae'r Pwyllgor Materion Allanol eisoes wedi nodi chwe amcan ar gyfer diwygio'r Bil ymadael, y mae'n eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn i'r Bil gael cydsyniad y sefydliad hwn. Y dasg o'n blaenau y prynhawn yma, wrth gwrs, yw ystyried egwyddorion y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Llywydd, i gynorthwyo Aelodau yn eu trafodaethau, hoffwn yn fyr gymharu rhai o'r amcanion a nodwyd gennym ni, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cael cyfatebiaeth iddynt. 

Y gyfres gyntaf gan y Pwyllgor Materion Allanol yw y dylid diwygio'r Bil i ddileu'r cyfyngiadau ar gymhwysedd y Cynulliad a geir yng nghymal 11 y Bil ymadael. Ein hail amcan oedd sicrhau bod Gweinidogion Cymru a'r Cynulliad yn gyfrifol am gywiro cyfreithiau sy'n deillio o'r UE yn yr holl feysydd cymhwysedd sydd wedi'u datganoli.

Mae'r Bil dan sylw y prynhawn yma yn cyflawni'r ddau amcan hyn i ryw raddau, yn y ffaith y bydd unrhyw gyfreithiau'r UE sy'n cael eu trosi i gyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE y tu hwnt i gwmpas y Bil ymadael a'r cyfyngiadau y mae'n ei osod. Fodd bynnag, nid yw'r Bil fel y'i drafftiwyd yn awtomatig yn cynnig yr amddiffyniad hwn i holl gyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE. Mae'n dibynnu ar Weinidogion Cymru yn dewis defnyddio'r pwerau a roddwyd iddynt gan y Bil hwn i drosi, cadw neu ailddatgan cyfreithiau'r UE fel y cânt eu diogelu. Mae honno'n ffordd wahanol o fynd ati yng Nghymru i'r hyn y dewisiwyd ei wneud yn yr Alban, lle mae arnyn nhw eisiau gweld holl gyfreithiau'r UE mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma sicrhau'r Cynulliad y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r pwerau a ddarperir gan y Bil hwn i drosglwyddo holl gyfreithiau'r UE mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig i gyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE, a byddaf yn rhoi ichi'r rhesymau dros hynny maes o law.

Mae'r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru a'r DU gan y Bil ymadael yn hynod o eang a phellgyrhaeddol. Er enghraifft, maent yn cynnwys y pŵer i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol drwy is-ddeddfwriaeth, a elwir yn bwerau Harri'r VIII, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei nodi. Er ein bod yn derbyn yr angen i roi'r pwerau eang hyn i Weinidogion, rydym hefyd wedi galw ar i'r pwerau hynny fod yn fwy cyfyng eu cwmpas ar gyfer Gweinidogion Cymru, ac o dan reolaeth. Mae'r Bil hwn yn bodloni'r gofynion llym hynny i ryw raddau, os ydynt yn dymuno newid cyfraith yr UE wrth ei throsglwyddo i gyfraith Cymru o dan adrannau 3, 4 a 5 y Bil hwn, fel mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei amlygu yn ei sylwadau agoriadol. Fodd bynnag, mae hi'n dal yn bosibl i'r rhain fod yn fwy cyfyng eu cwmpas, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ystyried y mater hwn ychydig ymhellach.

Mae'r pwerau a ddarperir i Weinidogion Cymru yn adrannau 9 a 10 y Bil yn adlewyrchu'r pwerau a ddarperir i Weinidogion y DU gan adrannau 8 a 9 y Bil ymadael. Byddent yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth a ystyrir yn briodol ganddynt i weithredu'r cytundeb ymadael, ac i atal achosion o dorri rhwymedigaethau rhyngwladol. Yn amcan 3 y Pwyllgor ynghylch y Bil ymadael, daethom i'r casgliad y dylai'r iaith fod yn fwy penodol a diwygio'r geiriad fel ei fod yn darllen i 'wneud yr hyn sy'n hanfodol', yn hytrach nag 'ystyried yn briodol', er fy mod i yn cydnabod bod llawer o arbenigwyr eraill hefyd yn gwneud sylwadau ar 'fel bo angen', ond mae hynny'n dal yn rhoi rheolaeth dynnach i chi nag y mae 'fel y bo'n briodol'.

Datganodd Amcan 4 o adroddiad y Pwyllgor y dylid diwygio'r Bil ymadael i atal Gweinidogion y DU rhag diwygio cyfreithiau sy'n deillio o'r UE mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig. Fel gydag amcanion 1 a 2, mae'r Bil hwn yn cyflawni'r amcan hwn i ryw raddau, ond mae'n dibynnu yn y pen draw ar Weinidogion Cymru yn dewis trosi holl gyfreithiau'r UE i gyfreithiau sy'n deillio o'r UE, oherwydd os na fyddan nhw'n gwneud hynny gyda'r cyfreithiau i gyd, bydd y rhai na fyddant yn eu trosi yn dod o dan gylch gorchwyl Bil ymadael yr UE. Mae hynny'n golygu na fydd ganddynt y pwerau i'w diwygio yn ddiweddarach, gan y byddant wedi eu trosglwyddo i'r pwerau o dan Fil ymadael yr UE.

Croesawaf gynnwys adrannau 13 a 14 yn y Bil, a fyddai'n ei gwneud hi'n angenrheidiol i Weinidogion Llywodraeth y DU geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn diwygio deddfau sy'n deillio o'r UE mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, fel y mae'r Pwyllgor wedi nodi ar sawl achlysur, byddai'n gyfansoddiadol well pe byddai angen cydsyniad y Cynulliad, ac nid Gweinidogion Cymru, ar Weinidogion y DU.

Roedd amcan 6 o adroddiad y Pwyllgor yn galw ar i'r Cynulliad gael cyfrifoldeb am bennu ei weithdrefnau craffu ei hun ar gyfer is-ddeddfwriaeth sy'n deillio o'r Bil ymadael. Nid yw'r ffaith fod y Bil hwn ger ein bron i'w ystyried yn rhoi sylw i'r mater hwnnw. Fodd bynnag, mae yn caniatáu i'r Cynulliad benderfynu ar y gweithdrefnau craffu ar gyfer is-ddeddfwriaeth o dan y Bil hwn. Croesawaf y ffaith na fyddai'r weithdrefn negyddol yn cael ei defnyddio o gwbl ar gyfer y rheoliadau a wneir o dan y Bil hwn ac rwy'n credu ei fod yn welliant sylweddol ar yr hyn a gynigir gan y DU, a oedd â llawer iawn, iawn o weithdrefnau negyddol, ac nad oedd yn rhoi cyfle inni graffu ar yr agweddau hynny mewn gwirionedd.

Croesawaf y ffaith fod y Llywodraeth wedi cynnwys gweithdrefn uwchgadarnhaol yn y Bil, a byddaf yn rhoi sylw gofalus iawn i farn cyd-Aelodau o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynglŷn â pha mor briodol neu beidio yw'r cynigion yn hynny o beth. Ac a gaf i hefyd ddiolch ar goedd i'r Pwyllgor hwnnw am y gwaith y mae wedi'i wneud mewn cyfnod byr iawn ar y Bil hwn sydd ger ein bron heddiw?

Serch hynny, nodaf y gofynion ar gyfer rhoi gwybodaeth ychwanegol i Senedd y DU mewn memoranda esboniadol i gynorthwyo gyda'r gwaith o graffu ar offerynnau statudol—mae'n gryfach mewn gwirionedd erbyn hyn yn y Bil ymadael. Yn y Bil hwn, gofynnaf i Lywodraeth Cymru ystyried efelychu'r pwynt hwnnw.

Llywydd, gobeithiaf yn wir fod Llywodraeth y DU yn gwrando ar farn gyson y Senedd hon ynglŷn â diffygion Bil ymadael yr UE ac a bydd yn gweithredu'n gyflym i wneud y diwygiadau angenrheidiol i'r Bil hwnnw, er nid yw sylwadau a chamau gweithredu diweddar yn rhoi llawer o obaith imi y bydd hynny yn digwydd mewn gwirionedd. Wedyn, os na fydd hynny'n digwydd, bydd y Bil yr ydym yn ei drafod y prynhawn yma yn hanfodol i warchod cymwyseddau datganoledig y sefydliad hwn, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r Bil hwn.