5. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:17, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Llywydd. A diolch i chi am sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Ar ôl sylwadau manwl iawn Ysgrifennydd y Cabinet a'r Cadeirydd, rwy'n teimlo ychydig fel gwas priodas mewn priodas pan fo'r priodfab wedi dwyn eich araith a gwneud yr holl bwyntiau hynny yr oedd arnoch chi eisiau eu gwneud. Ond a gaf i ddweud, yn ein pwyllgor ni, fe wnaethom ni drin y Bil hwn fel y byddem yn trin unrhyw un arall, sef drwy graffu mor fanwl â phosibl ar y Bil ac i ganolbwyntio mor fanwl â phosibl ar y bwriad yn y Bil ac o ran ei fod yn cyflawni yr hyn y mae yn bwriadu ei wneud? Yn hynny o beth, rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith sylweddol y mae'r Clerc ac aelodau o staff cymorth y Pwyllgor wedi ei wneud ac yn wir i'r drafftwyr deddfwriaethol, oherwydd bu hwn yn fater a gafodd ei gwblhau mewn amser byr iawn. Ond rwyf yn credu bod yr adroddiad yn fanwl ac yn ymdrin â'r holl faterion craffu allweddol yr oeddem ni eisiau eu codi. 

Dylwn ddweud ar y cychwyn nad oedd ein hadroddiad yn unfrydol. Roedd un aelod nad oedd yn cytuno ag ef, a wna' i ddim achub y blaen ar unrhyw sylwadau y mae fy nghyd-Aelod yn dymuno eu gwneud, felly wna' i ddim dweud mwy ar y pwynt penodol hwnnw. Fe wnaethom ni wyth argymhelliad i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ac rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad, fel y dywedais, yn ddefnyddiol i Aelodau'r Cynulliad wrth wneud y penderfyniadau angenrheidiol ynglŷn â'r Bil penodol hwn.

Mae gadael yr UE wedi codi pryderon difrifol ynglŷn â pha ddeddfwrfa ddylai arfer pwerau mewn meysydd datganoledig ar ôl i'r DU adael yr UE. Hyd nes y gwelwn ni newidiadau i Fil ymadael yr UE, rydym ni wedi derbyn bod angen ar gyfer y Bil hwn, fel y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet eisoes, ac rydym yn gweld y Bil hwn yn darparu modd o lenwi gwagle deddfwriaethol posibl.

Yn ein barn ni, mae absenoldeb unrhyw gynllun amgen ar gyfer ymdrin â phenderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i wrthod cydsyniad yn golygu bod cyflwyno'r Bil hwn yn ffordd gyfrifol a synhwyrol o fynd ati. Rydym yn cytuno â Llywodraeth Cymru hefyd mai'r dewis delfrydol fyddai parhau i warchod datganoli drwy gyfrwng Bil ymadael yr UE, ac rydym yn annog pob plaid i barhau i gydweithio er mwyn sicrhau canlyniad lle y gallai'r Cynulliad Cenedlaethol fod mewn sefyllfa i roi ei gydsyniad i'r Bil ymadael. Os na fydd cytundeb, bydd y Bil hwn yn un o'r Biliau pwysicaf erioed i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn graffu arno.

Mae'r un materion o egwyddor yn berthnasol i'r pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil ag sy'n berthnasol i Fil ymadael yr UE, sef na cheir defnyddio pwerau gwneud rheoliadau i newid y cydbwysedd pŵer yn ormodol tuag at lywodraethau ac oddi ar y deddfwrfeydd, mae'n rhaid bod cyfiawnhad clir i bwerau Harri'r VIII ac, o leiaf, dylent fod yn ddibynol ar y weithdrefn gadarnhaol, ac yr ystyrir pwerau gwneud rheoliadau yng nghyd-destun sut y gellid eu defnyddio, nid y bwriad o'u defnyddio.

Dychwelaf yn fyr at rai o'r casgliadau a'r argymhellion a wnaed gennym. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfeirio at rai o'r rheini, a byddwn yn ystyried yn ofalus ei ymateb ysgrifenedig maes o law yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae adrannau 3, 4 a 5 yn ffurfio craidd y Bil drwy roi pwerau eang i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n cadw cyfraith uniongyrchol yr UE, ailddatgan deddfiadau sy'n deillio o'r UE, a sicrhau bod darpariaethau a wnaed o dan y pwerau sy'n gysylltiedig â'r UE yn parhau i fod mewn grym. Fe wnaethom ni ofyn nifer o gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch y defnydd o'r pwerau hyn, ac, yng ngoleuni ei ymatebion, fe wnaethom ni argymell ei fod yn cadarnhau ein dealltwriaeth o'r defnydd o bwerau o dan adran 4 y Bil yn gywir, ac mae wedi gwneud hynny, a pha un ai a yw'r ordinhadau hunan-gyfyngol a geir yn y Bil yn fwy cyfyngol na'r rhai a geir ym Mil ymadael yr UE, ac mae wedi rhoi sicrwydd o ran hynny.

Gan droi at adran 7, rydym yn croesawu hefyd bod y siarter hawliau dynol sylfaenol yn dylanwadu ar sut y dehonglir yr holl reoliadau a wneir o dan adrannau 3, 4 a 5 y Bil. Rwy'n ddiolchgar am yr eglurhad a roddwyd ynghylch hynny hefyd.

Mae adran 11 yn cynnwys pŵer eang iawn, gan alluogi Gweinidogion Cymru i adlewyrchu cyfraith yr UE ar ôl y diwrnod ymadael gan ddefnyddio is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol uwch. Mae adran 11 felly yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, i adlewyrchu cyfraith yr UE sy'n cael ei basio gan Senedd Ewrop a chyngor yr Undeb Ewropeaidd ond ni fydd modd i'r DU ddylanwadu ar hynny mwyach. Gellir dadlau bod adran 11 yn ddull cyfansoddiadol newydd ac yn un y bu gennym ni bryderon yn ei gylch o ran pa un a oedd yn foddhaol ai peidio.

O dan yr amgylchiadau, er mwyn cyfiawnhau yn gyntaf ac yna cryfhau'r dull, fe wnaethom ni argymhellion: yn gyntaf, bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfiawnhau pam na ellir defnyddio deddfwriaeth sylfaenol i gyflawni cyfochri rheoleiddiol fesul achos, yn hytrach na'r is-ddeddfwriaeth a ragwelir o dan adran 11—ac, wrth gwrs, dyma oedd y sylwadau a wnaeth Dai Lloyd, a bu ymateb, a byddwn, unwaith eto, yn rhoi ystyriaeth bellach iddo maes o law—yn ail, y dylai Ysgrifennydd y Cabinet ystyried gwelliant i adran 11, os cedwir hwnnw, i gyfyngu ar ei gwmpas fel ei fod yn berthnasol dim ond i faterion ble mae cyfochri rheoleiddiol yn parhau gyda'r Undeb Ewropeaidd, fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol. Rwy'n ddiolchgar am y sylwadau a wnaed, ac, unwaith eto, byddwn yn rhoi ystyriaeth bellach i hynny. Yn olaf, y dylai Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno gwelliannau i'r Bil i gynnwys cymal machlud a fyddai yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddiddymu adran 11 pum mlynedd ar ôl y diwrnod ymadael oni bai bod rheoliadau, y mae a wnelon nhw â'r weithdrefn gadarnhaol, yn darparu fel arall. Cyn gwneud rheoliadau o'r fath, rydym yn argymell eu seilio ar adolygiad a gynhelir gan bwyllgorau'r Cynulliad.

Nid yw adrannau 13 a 14 yn rhoi swyddogaeth cydsyniad i'r Cynulliad Cenedlaethol, hyd yn oed pan fo Gweinidogion y DU yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol, gan gynnwys Deddfau a Mesurau'r Cynulliad Cenedlaethol. Am y rheswm hwnnw, rydym yn argymell yn ein hadroddiad ei fod wedi cyfiawnhau'r dull hwn ac wedi esbonio sut y mae'r swyddogaeth cydsyniad yn cyd-fynd â'r broses cydsyniad offeryn statudol a nodir yn Rheol Sefydlog 30A. Dyna argymhelliad 6.

Mae'r holl reoliadau a wneir o dan y Bil yn ddarostyngedig i'r fframwaith craffu sydd i'w weld yn Atodlen 2, sy'n darparu ar gyfer tair gweithdrefn graffu wahanol: y weithdrefn gadarnhaol safonol, y weithdrefn frys a'r weithdrefn gadarnhaol uwch. Rydym yn argymell y dylai Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno gwelliannau yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Memoranda Esboniadol sy'n mynd gyda'r rheoliadau a wnaed o dan y Bil fod yn glir ac yn dryloyw wrth egluro, er enghraifft, pam mae angen defnyddio'r gweithdrefnau cadarnhaol a brys, pa newidiadau a wneir gan y rheoliadau a pham, a'r effaith y gall y rheoliadau eu cael ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Edrychwn ymlaen at gael yr ymatebion ysgrifenedig a manwl maes o law, ond rwyf hefyd yn ddiolchgar am y graddau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gallu ymdrin â rhai o'r materion hyn cyn y cyfarfod llawn penodol hwn.