5. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:35, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar. Bydd hi wedi clywed, fel y gwnes innau, David Melding yn dweud y byddai proses y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol sy'n ymwneud â'r Bil yn amddiffyniad inni yn hyn o beth, ond wrth gwrs nid yw hynny yn rhoi unrhyw amddiffyniad inni o ran yr holl reoliadau hyn a luniwyd gyda phwerau Harri'r VIII, nad oes ond angen ymgynghori arnyn nhw â Llywodraeth Cymru—nid hyd yn oed y Cynulliad. Nid yw'r Bil hwn sydd ger ein bron heddiw yn un ffug o gwbl. Mae'n weithred gyfansoddiadol sylfaenol o amddiffyn ein setliad datganoledig yn y fan yma, a fydd yn rhoi'r Llywodraeth mewn sefyllfa gryfach, gobeithio, ar gyfer negodi. Ond os nad, rydym yn egluro, yn glir iawn, sut y byddem yn diogelu datganoli yng Nghymru. Yn anffodus, mae'r Ceidwadwyr wedi troi eu cefn ar hynny.