Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 13 Mawrth 2018.
Gwrandewais mewn peth dryswch ar araith David Melding. Roedd yn ymddangos ei fod yn siarad mewn rhyw fath o wagle, fel petai gan y rheswm pam yr ydym ni yma heddiw ddim i'w wneud â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Nid Mesur ffug yw hwn, ac os oes argyfwng cyfansoddiadol ar y gorwel, mae hynny oherwydd bod rhywbeth a oedd yn gwbl ragweladwy wedi digwydd oherwydd esgeulustod Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fod o ddifrif ynglŷn â'r broses hon. Rydym ni wedi bod yn aros am dri mis ar gyfer gwelliannau i Fil ymadael yr UE, a doedd dim wedi cyrraedd tan yr ychydig oriau terfynol. Wrth gwrs, o dan yr amgylchiadau hyn, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Cynulliad yn wir baratoi ar gyfer y posibilrwydd nad yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn pasio'r Cynulliad hwn ac wedyn bod bwlch deddfwriaethol. Byddai'n hurt pe byddai'n ymddwyn fel arall. Rydym ni'n Gynulliad sydd yma i ddeddfu ac i ddiddymu deddfau, ac i beidio â chaniatáu i wagleoedd deddfwriaethol ddod i fodolaeth.
Wrth gwrs, mae Theresa May a'i gweinyddiaeth wedi cyflawni'r gamp fwyaf rhyfeddol o uno pleidiau mor amrywiol â Phlaid Cymru ar un llaw, y Blaid Lafur a UKIP yn y Cynulliad hwn. Fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru eiliad yn ôl, nid yw hyn ynglŷn ag aros neu adael, oherwydd rydym ni'n coleddu barn cwbl groes ynglŷn â'r dymunoldeb o aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Y tro diwethaf y crybwyllwyd hyn yn y Cynulliad dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru a minnau y pwynt sylfaenol nad yw hyn yn ymwneud â refferendwm yr UE yn unig; Mae a wnelo hefyd â dau refferendwm a sefydlodd ddatganoli ac a ddaeth â'r Cynulliad hwn i fodolaeth. Fy safbwynt i bob amser yw y dylid parchu refferenda, neu y dylid parchu canlyniadau'r refferenda hynny, pa un a ydynt yn berthnasol i faterion mewnol y Deyrnas Unedig neu, yn wir, rai allanol, a pharch ar gyfer y broses honno sydd wrth wraidd yr hyn y mae a wnelo'r Bil ag ef. Mae'n Fil am ddemocratiaeth — unwaith eto, fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru funud yn ôl.
Y rheswm pam, yn bennaf, yr wyf i wedi bod o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd erioed—yn wir, gwrthwynebais ymuno ag ef yn y lle cyntaf—oedd oherwydd bod prosesau ddeddfwriaeth o fewn yr UE yn ddemocrataidd ddiffygiol. O ganlyniad i ailwladoli'r prosesau hyn i San Steffan neu Gaerdydd, Caeredin neu Belfast, bydd barn y bobl, fel y'i cynrychiolir gan y rhai sy'n cael eu hethol i'w cynrychioli, yn hanfodol i greu cyfraith, neu ddiddymu cyfraith, yn y dyfodol. Mae'r Undeb Ewropeaidd, wrth iddo ddatblygu, wedi creu corpws o gyfraith a oedd ar wahân i'r broses ddemocrataidd. Rhoddodd y Llys Ewropeaidd yn wir, mewn dyfarniadau yn dyddio'n ôl cyn belled â 1963, y grym iddo'i hun i ddiystyru prosesau democrataidd, ac mewn achos ym 1970—achos Internationale Handelsgesellschaft—rhoddodd y pŵer iddo'i hun i ddiystyru cyfansoddiadau cenedlaethol, hyd yn oed, na chafodd ei dderbyn erioed gan lys cyfansoddiadol yr Almaen, na'r Iseldiroedd, ond y mae Llys Cyfiawnder Ewrop wedi dweud erioed ei fod yn sylfaenol i waith mewnol yr UE. O ganlyniad i hynny, o ran y Deyrnas Unedig, pa un a yw'n fesur cyfansoddiadol, sef yr hyn yr oedd David Melding yn poeni yn ei gylch, neu a yw'n unrhyw fath arall o ddeddfwriaeth, yna bydd y rhai sy'n cael eu hethol i gynrychioli pobl yn gallu gwneud y gwaith craffu nad oes modd ei wneud ar hyn o bryd gyda'r deddfau y mae'n rhaid inni ufuddhau iddyn nhw, oherwydd iddynt gael eu llunio naill ai gan brosesau biwrocrataidd—oherwydd y Comisiwn Ewropeaidd sydd â'r unig hawl i gynnig deddfau yn yr Undeb Ewropeaidd—neu o ganlyniad i achosion yn Llys Cyfiawnder Ewrop, na ellir eu diwygio na'u diddymu gan unrhyw broses syml.
Felly, o ganlyniad i Fil Ymadael yr Undeb Ewropeaidd, byddwn yn ailwladoli'r pwerau hynny i Senedd-dai y Deyrnas Unedig—ac wrth ddweud hynny rwy'n golygu'r senedd-dai datganoledig yn ogystal â Senedd y DU yn San Steffan. Rwy'n ystyried hynny yn broses gwbl ddiniwed. Wrth gwrs, mae'r broses hon yn esgor ar anawsterau cyfansoddiadol tymor byr—ac mae cymal 11 y Bil hwn yn un ohonynt, gyda'r mater o gymalau pwerau Harri'r VIII. Rwy'n barod i dderbyn, yn y tymor byr, bod y cymal hwn yn angenrheidiol er mwyn rhoi'r sicrwydd deddfwriaethol sydd ei angen arnom ni ar gyfer y dyfodol, ond mae'n egwyddor na fyddem yn dymuno ei osod, yn gyffredinol, a gobeithiaf y bydd cymal machlud, neu rywbeth tebyg, a fydd yn sicrhau na fydd hyn yn parhau am gyfnod hwy nag sy'n angenrheidiol.
Mae'r dasg ddeddfwriaethol ger ein bron, i ystyried neu ailystyried 44 neu 45 mlynedd o ddeddfwriaeth, yn enfawr. Ni ellir gwneud hynny mewn ffordd ystyrlon heb y pwerau eithriadol hyn. Yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod, bydd gennym y cyfle i ddiddymu a diwygio fel bo'r angen, ond rwy'n credu bod hwn yn Fil hanfodol angenrheidiol i ddiogelu buddiannau pobl Cymru, yn ogystal â phobl Prydain. Ni welaf unrhyw anghysondeb na gwrthdaro rhwng y ddau beth hyn, ac rwy'n gresynu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi creu rhywfaint o wrthdaro cwbl ddiangen o ran yr hyn y byddai, fel arall, rwy'n credu, y rhan fwyaf o Geidwadwyr wedi ei ystyried yn broses gwbl fuddiol o adfer democratiaeth i bobl Prydain a phobl Cymru.