Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 13 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch i Gadeiryddion y tri phwyllgor sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma? Mae'n ddefnyddiol dros ben i'r Cynulliad gael y farn arbenigol y mae'r gwahanol bwyllgorau yn ei chyfrannu at y pwnc hwn, ac rwy'n credu bod pob un o'r tri chadeirydd wedi gallu egluro safbwyntiau eu pwyllgorau.
Tynnodd John Griffiths sylw at y siarter hawliau sylfaenol, a buom yn falch iawn o allu cyfeirio at y siarter honno yn ein Bil. Ond yr ateb mewn difrif yw diwygio Bil ymadael yr UE y mae'r DU yn ei lunio i wneud y siarter yn berthnasol i'r holl gyfraith ddomestig. Bu ymdrech wirioneddol yn Nhŷ'r Arglwyddi ar y mater hwn, a bu'n rhaid i Weinidog y DU gytuno y bydd yn dychwelyd i Dŷ'r Arglwyddi yn y Cyfnod Adrodd gyda chynigion pellach ar y mater hwnnw. Nid oes rheswm cyfreithiol o gwbl, fel y dywedodd Jane Hutt, gan ddyfynnu'r Athro Hoffman, pam na ellir gwneud hynny, a phe byddai hynny'n cael ei wneud yn y ffordd honno, yna nid yn unig y byddai cyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE yn elwa ar rai o fesurau diogelu'r Siarter, ond byddai'r holl gyfraith ddomestig sy'n trosi o gyfraith yr UE i gyfraith y DU yn elwa ar y siarter.
Ailadroddodd David Rees a Mick Antoniw ill dau y safbwynt y bu'r Llywodraeth yn ei goleddu ers amser—mai'r Bil hwn yw ein dewis ail orau. Nid dyma'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud. Rydym ni eisiau cael cytundeb gyda Llywodraeth y DU—Llywodraeth esgeulus y DU, fel y dywedodd Neil Hamilton—sydd wedi methu â rhoi'r amser a'r egni angenrheidiol i ddod i gytundeb gyda ni. Gellid bod wedi gwneud hynny, a dylid bod wedi gwneud hynny, cyn hyn. Byddwn yn mynd ati gan wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau cytundeb tra bod Bil ymadael yr UE yn dal ger bron y Senedd-dai. Os byddwn yn dod i gytundeb, yna, ni waeth pa gyfnod y mae'r Bil hwn wedi cyrraedd, byddwn yn dibynnu ar y Bil hwnnw, yn hytrach nag ar y diogelwch wrth gefn hwn.
Serch hynny, mae'n amddiffyniad sylfaenol, fel y cadarnhaodd Leanne Wood wrth ymateb i ymyriad Simon Thomas. Rwy'n ddiolchgar am gymorth parhaus a chyson Plaid Cymru wrth ddatblygu'r Bil hwn. Edrychaf ymlaen at rai trafodaethau pellach ynghylch rhai o'r pwyntiau a wnaed gan Leanne Wood, yn enwedig o ran argymhelliad 5 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r cymal machlud mewn cysylltiad ag adran 11 y Bil.
Rwy'n credu eich bod wedi clywed achos eithaf cryf gan Jane Hutt ynghylch pam mae adran 11 yn angenrheidiol yn y tymor byr, oherwydd y ffordd y bydd yn caniatáu inni wneud yn siŵr y gall yr amddiffyniadau cymdeithasol sydd ar gael i ddinasyddion yr UE, ac y caent eu hatal fel arall i ddinasyddion Cymru, barhau i fod ar gael iddyn nhw yn y dyfodol. Ond byddaf yn ystyried yn ofalus yr hyn a ddywedodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch am ba hyd y dylem ni ddibynnu ar yr adran hon, ac rwy'n fwy na pharod i gael trafodaethau pellach gyda'r rhai sydd â diddordeb yn y mater hwn.
Trof at yr hyn a ddywedodd David Melding. Tybiaf ei fod yn dibynnu ar yr hen fantra gwleidyddol mai ymosod yw'r ffordd orau o amddiffyn, ac os oes gennych chi achos arbennig o wan i'w ddadlau, cyhyd â'ch bod chi'n gwneud hynny gyda digon o arddeliad, bydd rhai pobl yn credu bod rhyw sylwedd yn yr hyn a oedd yn cael ei ddweud. Rwy'n credu ei fod yn anghywir. Nid oedd llawer o'r pwyntiau a wnaeth heddiw yn berthnasol i ddadl heddiw. Roedden nhw'n berthnasol iawn i benderfyniad yr wythnos diwethaf ynghylch ar ba un a ddylid cyflwyno'r Bil hwn drwy'r weithdrefn frys, ai peidio, ond cawsom y ddadl honno a chytunodd y Cynulliad Cenedlaethol, drwy fwyafrif sylweddol iawn, gyda'r holl gyfaddawdu sydd ynghlwm â hynny, ei bod hi'n angenrheidiol cyflwyno'r Bil hwn ar ffurf Bil brys. Nid wyf yn credu ei fod yn Fil ffug am eiliad. Beth mae'n ei wneud yw llenwi'r gwacter deddfwriaethol, darparu amddiffyniad sylfaenol, i roi sicrwydd i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn ei gefnogi y prynhawn yma.