6. Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:59, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Dim ond ar y pwynt hwn: rydych chi wedi nodi y byddai'r costau hyn yn digwydd pa un a ydym ni'n dilyn trywydd San Steffan neu'r trywydd hwn. Mae yna gostau gweinyddol i Lywodraeth Cymru wrth baratoi ar gyfer yr hyn y mae pobl wedi pleidleisio drosto, felly mae hynny'n iawn, ond a ydych chi wedi gallu cael gwybod o gwbl pa un a yw'r opsiwn yn y Bil hwn, mewn gwirionedd, yn opsiwn mwy drud neu'n opsiwn sydd wedi'i gostio'n wahanol i hwnnw a fyddai'n codi yn sgil y Bil Ymadael â'r DU? Ac o ran—rwy'n siŵr bod y Ceidwadwyr yn dymuno arbed arian cyhoeddus, oni fyddai'n fwy priodol, felly, i ddilyn yr opsiwn rhataf a mwyaf effeithiol wrth ddefnyddio adnoddau cyhoeddus ym mhob achos?