Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 13 Mawrth 2018.
Rydw i wedi nodi galwadau a wnaed am adnoddau ychwanegol i'w dyrannu i wasanaethau camddefnyddio sylweddau wrth ragweld cynnydd posibl mewn galw wrth i bobl geisio cael triniaeth neu gymorth. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda byrddau cynllunio ardal i sicrhau, pan gyflwynir y ddeddfwriaeth hon, yn amodol ar ewyllys y Cynulliad, bod y gwasanaethau hyn yno ar gyfer y rhai mewn angen, oherwydd rydym ni'n parhau i gynnal ein buddsoddiad o bron i £50 miliwn y flwyddyn i gefnogi pobl ag anawsterau camddefnyddio sylweddau. Mae bron i hanner yr arian hwn yn mynd yn uniongyrchol i'r saith bwrdd cynllunio ardal, sy'n comisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ar gyfer eu rhanbarthau. Mae £17.1 miliwn ychwanegol wedi'i neilltuo ar hyn o bryd ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau o fewn byrddau iechyd, a bydd hwnnw'n cynyddu ar gyfer gwasanaethau rheng flaen i £18 miliwn y flwyddyn o fis Ebrill eleni. Rydym ni hefyd yn gweithio i ostwng amseroedd aros am driniaeth fel yr wyf wedi pwysleisio mewn dadleuon blaenorol yn y Siambr hon.
Yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1 o'r Bil, codwyd pryderon ynghylch pa un a fyddai'r Bil yn cael effaith anghymesur ar yfwyr cymedrol a'r rheini o deuluoedd incwm isel, a gofynnodd rhai a fyddai yfwyr trwm yn dewis gwario incwm ar alcohol drutach yn hytrach na gwres a bwyd. Dengys y gwaith modelu wedi'i ddiweddaru o Brifysgol Sheffield na fydd effaith ar yfwyr cymhedrol i raddau helaeth yn sgil cyflwyno isafbris uned. Mae hynny oherwydd nad yw yfwyr cymedrol yn yfed llawer iawn o alcohol yn rheolaidd a'u bod yn llai tebygol o yfed alcohol rhad.
Rydym ni'n disgwyl y bydd effaith ar bobl mewn cartrefi incwm isel sy'n yfed lefelau peryglus neu niweidiol, ond dyna hefyd lle'r ydym ni'n rhagweld gwneud y cynnydd mwyaf o ran iechyd. Mae pobl sydd â'r lleiaf o adnoddau sy'n yfed ar lefelau niweidiol yn llawer mwy tebygol o brofi salwch sy'n gysylltiedig ag alcohol a bod ag angen gofal iechyd sylweddol a hirdymor, ac a dweud y gwir hefyd, maen nhw'n llawer mwy tebygol o farw oherwydd alcohol. Mae'r ystadegau ar hyn yn drawiadol. Felly, ni allwn anwybyddu'r lefel honno o anghydraddoldeb iechyd.
Mae adroddiad y pwyllgor iechyd yn tynnu sylw at y risg posibl o amnewid alcohol â sylweddau niweidiol eraill. Mae'r sail dystiolaeth ar gyfer hynny yn gyfyngedig, ond rwy'n cydnabod y pryder. Dyna pam yr wyf i'n hapus i gadarnhau eto fy mod wedi gofyn i banel cynghori Llywodraeth Cymru ar gamddefnyddio sylweddau edrych ar y mater hwnnw ac adrodd yn ôl yn yr wythnosau nesaf. Ac, yn amlwg, caiff yr adroddiad hwnnw ei gyhoeddi a'i ddarparu i'r Aelodau a'r cyhoedd ehangach i graffu arno.
Rwyf hefyd yn dymuno ymdrin â chyd-destun materion traws-ffiniol. Mae rhai pobl wedi dadlau y gellid anwybyddu isafbris uned mewn rhannau mawr o Gymru gan eu bod mor agos at y ffin â Lloegr, neu gan y bydd pobl yn troi at alcohol anghyfreithlon. Mae rhai pobl wedi sôn am criwsiau cwrw i Fryste. Byddai cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn golygu gwahanol gyfundrefnau prisiau rhwng Cymru a Lloegr, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod costau teithio dros unrhyw bellter a chost amser person yn debygol o wrthbwyso arbedion posibl. Rwy'n parhau i fod yn obeithiol y bydd Llywodraeth y DU yn dilyn ein hesiampl ni ac arweiniad yr Alban ac yn cyflwyno isafbris uned, yn union fel y gwnaeth ddilyn ein harweiniad ar y gwaharddiad ar ysmygu a'r taliadau am fagiau siopa hefyd.
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i nodi unrhyw effeithiau i'r isafbris uned ar werthu neu yfed alcohol anghyfreithlon—eto, mater a godwyd yn adroddiad y pwyllgor iechyd.
Yn y misoedd diwethaf, bu trafodaeth ynghylch pa un a ddylai lefel yr isafbris uned fod ar wyneb y Bil ai peidio. Mae barn y Llywodraeth yn parhau i fod yr un peth: mae pennu lefel mewn rheoliadau yn rhoi cyfle inni barhau i fod yn hyblyg ac ymateb i amgylchiadau sy'n newid. Cefnogwyd y safbwynt hwnnw gan y pwyllgor iechyd a rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond rwy'n cydnabod bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi dod i farn wahanol yn eu argymhellion nhw. Felly, byddwn yn parhau ar y sail o bennu lefel isafbris uned mewn rheoliadau, i'w gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y weithdrefn gadarnhaol.
Gan droi at sut y caiff y lefel ei phennu, byddwn yn edrych ar effeithiau gwahanol lefelau o isafbris uned sydd wedi'u modelu, ac wedyn yn gwneud penderfyniad cytbwys. Unwaith eto, hoffwn ailadrodd y byddaf yn ymgynghori ar y lefel arfaethedig ac yn cyhoeddi asesiad effaith rheoleiddiol gydag asesiad ariannol trylwyr o'r effeithiau ochr yn ochr â'r rheoliadau drafft. Gofynnodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i mi nodi ein cyfiawnhad gan gynnwys enghreifftiau darluniadol ar wyneb y Bil. Dyna'n union yw'r rhain. Maen nhw'n esbonio sut i gyfrifo'r isafbris perthnasol ar gyfer alcohol. Yn benodol, gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar sut yr ydym yn bwriadu osgoi dryswch, os yw lefel yr isafbris yn wahanol yn y pen draw i'r un a geir yn yr enghreifftiau yn y Bil. Mae hyn yn rhan o geisio gwneud y ddeddfwriaeth yn hygyrch ac yn hawdd ei deall. Maent yn cynnwys cyfrifiadau mathemategol ac roeddem ni o'r farn y byddai enghreifftiau ar y Bil yn helpu pobl i ddeall. Mae hynny hefyd wedi'i groesawu yn gyffredinol gan randdeiliaid mewn ymateb i'r Bil drafft. Felly, mae'r Bil a'r dogfennau ategol yn nodi'n glir iawn mai'r isafbris uned fydd pa bris bynnag a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru gyda chytundeb cadarnhaol y Cynulliad hwn, a byddwn hefyd yn gwneud hynny'n glir yn y canllawiau ac wrth gyfathrebu yn y dyfodol.
Trof yn awr at y mater ynghylch ardoll gwirfoddol. Mae'r mater hwn wedi codi yn adroddiadau dau bwyllgor o leiaf, felly gallai peth o'r refeniw ychwanegol yr ydym yn disgwyl ei godi gael ei roi o'r neilltu i gael ei fuddsoddi yn iechyd y cyhoeddus. Rwy'n agored i ymchwilio i'r mater hwn. Nid wyf yn meddwl bod gennym bwerau i godi ardoll orfodol, ond rwy'n hapus i edrych ar waith ymchwil i roi dealltwriaeth lawnach i ni o ganlyniad cyflwyno'r ddeddfwriaeth a deall yn well unrhyw gynnydd yn y refeniw i fanwerthwyr a lle y byddai llwythi'r gadwyn gyflenwi yn cwympo, i geisio deall a fyddai cynllun gwirfoddol yn cynhyrchu adenillion gwirioneddol i'w buddsoddi yn iechyd y cyhoedd.
Fel y dywedaf, nid yw isafbris uned yn fwled arian, Llywydd. Mae'n rhaid ei weld fel rhan o'n dull ehangach o leihau faint o alcohol sy'n cael ei yfed ac i fod â pherthynas iachach ag alcohol. Felly, mae polisi yma yng Nghymru yn mynnu amrywiaeth o ymagweddau, a all, o'u defnyddio gyda'i gilydd, esgor ar newid go iawn ac ystyrlon a budd iechyd gwirioneddol ac ystyrlon. Felly, rydym yn bwriadu defnyddio'r holl gymorth sydd ar gael ledled Cymru i ddatblygu perthynas iachach ag alcohol a rhoi diwedd ar yr hanesion trist o bobl yn marw o ganlyniad i yfed.