Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 13 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma y prynhawn yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor. Mae ein gwaith craffu ar y Bil wedi bod yn hynod drylwyr, ac rydym wedi llwyddo i ddatblygu argymhellion clir ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud ein bod yn ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i ysgrifennu atom a chyflwyno tystiolaeth inni mewn un o'n cyfarfodydd ffurfiol. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i'r bobl a roddodd o'u hamser er mwyn caniatáu i Aelodau a staff y pwyllgor siarad â hwy mewn lleoliadau llai ffurfiol.
Dyma'r ail Fil ar iechyd y cyhoedd a gafwyd yn y Cynulliad hwn, a'r ail Fil y mae ein pwyllgor ni wedi craffu arno. Er ei fod yn ymdrin efo materion polisi gwahanol i'r rhai a oedd wedi'u cynnwys yn y Bil cyntaf, mae gan y Bil hwn hefyd y potensial i gyfrannu at y nod o wella a diogelu iechyd pobl Cymru.
Er gwaethaf y sylwadau hynny, credwn fod angen rhoi ystyriaeth bellach i'r Bil a'r polisi ehangach. Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd inni yn awgrymu bod angen cymryd camau pellach i wella’r Bil, i baratoi ar gyfer ei gychwyn, ac i gefnogi’r broses o’i weithredu. Mae angen cymryd camau pellach hefyd i sicrhau bod effeithiau isafbris uned yn cael eu monitro a’u deall. Rydym ni wedi gwneud nifer o argymhellion a fydd, yn ein barn ni, yn cryfhau'r ddeddfwriaeth a'r broses o'i gweithredu. Byddant hefyd yn fodd o osgoi rhai canlyniadau anfwriadol posibl, yn enwedig mewn perthynas ag yfwyr dibynnol. Yn fy sylwadau, byddaf yn canolbwyntio ar rai o'r pethau yma.
Er ein bod yn cytuno efo'r cynnig i bennu'r isafbris uned drwy reoliadau eilaidd, credwn y dylid rhoi cyfleoedd craffu mwy helaeth i'r Cynulliad yma a'i bwyllgorau. Mae lefel yr isafbris uned yn ganolog i lwyddiant y Bil, wedi'r cwbl. Credwn y dylai'r rheoliadau gael eu gwneud gan ddefnyddio'r weithdrefn uwchgadarnhaol, a hynny er mwyn caniatáu digon o amser i'r pwyllgorau graffu arnynt, gan gynnwys gwahodd sylwadau gan randdeiliaid a holi’r Gweinidog perthnasol, cyn ei bod yn ofynnol i’r Cynulliad bleidleisio arnynt.
Rydym ni wedi clywed amheuon ynghylch y grwpiau y bydd y ddeddfwriaeth yn cael yr effaith fwyaf arnynt. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi datgan y bydd yr isafbris uned ar gyfer alcohol yn cael yr effaith fuddiol fwyaf ar yfwyr peryglus a niweidiol. Fodd bynnag, cawsom dystiolaeth glir y bydd cynyddu’r pris gwaelodol, sef y pris nad oes modd gwerthu alcohol islaw iddo, yn cael effaith andwyol ar yfwyr sy’n ddibynnol ar alcohol rhad a chryf fel seidr gwyn. Felly, rydym ni'n pryderu ynghylch argaeledd gwasanaethau triniaeth a chymorth digonol i’r rhai sy’n camddefnyddio alcohol. Rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru, cyn cychwyn y ddeddfwriaeth, yn cynnal asesiad cadarn o’r angen presennol am wasanaethau triniaeth a chymorth yng Nghymru i sicrhau bod darpariaeth ddigonol, sydd wedi’i diogelu ar gyfer y dyfodol, ar gael. Dyna argymhelliad 7.
Rydym ni hefyd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fonitro effeithiau'r gyfundrefn sydd ar fin cael ei gweithredu yn yr Alban er mwyn sicrhau bod unrhyw wersi a ddysgir yn gallu llywio'r modd y cyflwynir y gwasanaethau hyn yma yng Nghymru. Dyna ydy argymhelliad 8.
Rydym ni hefyd yn pryderu mai un o ganlyniadau anfwriadol y ddeddfwriaeth fydd peri i rai pobl â chanddynt broblem yfed ddefnyddio sylweddau mwy peryglus ac anghyfreithlon yn lle alcohol. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil annibynnol i ddarganfod faint o broblem yw defnyddio sylweddau eraill yn lle alcohol yn debygol o fod pe bai isafbris uned yn cael ei gyflwyno. Dyna argymhelliad 9.
Argymhellodd nifer o randdeiliaid fod Llywodraeth Cymru yn codi ardoll ar fanwerthwyr neu’n cyflwyno cynllun cyfraniad gwirfoddol er mwyn cyfeirio cyfran o unrhyw gynnydd mewn elw o ganlyniad i isafbris uned at wasanaethau gofal iechyd a chymorth. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i ymarferoldeb cyflwyno ardoll orfodol, neu gynllun talu gwirfoddol, i fanwerthwyr. Dyna argymhelliad 10, a gwnaeth nifer o bobl sôn am hynny. Dylid defnyddio’r arian a godir gan yr ardoll yn gyfan gwbl at ddibenion mynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol a chyfrannu at y nod ehangach o wella a diogelu iechyd pobl Cymru.
Wrth graffu ar y Bil hwn, roeddem yn ymwybodol iawn bod llawer yn amheus ohono. Rydym ni hefyd yn ymwybodol bod llawer o gamsyniadau ynghylch yr effaith y bydd y ddeddfwriaeth yn ei chael ar rai grwpiau. Yn sgil hyn, credwn y bydd cyfathrebu pwrpas y ddeddfwriaeth i’r cyhoedd a’r busnesau yr effeithir arnynt yn hollbwysig i’w llwyddiant fel mesur gwella iechyd. Rydym ni'n nodi sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch dyrannu arian ar gyfer cynllun cyfathrebu, ond nid ydym ni'n credu bod £100,000 yn swm digonol i ariannu’r gwaith yma. Felly, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r amcangyfrifon o’r costau sydd wedi'u cynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y gweithgarwch cyfathrebu arfaethedig gyda’r nod o gynyddu cyfanswm y cyllid sydd ar gael i roi cyhoeddusrwydd i’r newidiadau ymysg busnesau ac i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Dyna argymhelliad 2.
Mae gan y Bil botensial mawr i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon iechyd hirsefydlog ynghylch effaith yfed alcohol yn ormodol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae isafbris uned yn parhau i fod yn theori—yn ddamcaniaeth—sydd heb ei phrofi, ac rydym wedi clywed rhai amheuon ynghylch ei effaith debygol. Yn sgil hynny, mae gwerthuso effaith cyflwyno isafbris uned yng Nghymru yn elfen hanfodol ac angenrheidiol o’r ddeddfwriaeth yma. Credwn y dylid diwygio’r Bil i gynnwys darpariaeth fwy manwl ynghylch y gwerthusiad sy’n ofynnol, ac rydym wedi argymell bod yn rhaid i'r gwerthusiad gyfeirio at nifer o bethau, gan gynnwys effeithiau isafbris uned ar yfwyr cymedrol, yfwyr dibynnol, y defnydd o gyffuriau eraill yn lle alcohol, trais yn y cartref, a masnach drawsffiniol. Dyna argymhellion 13 ac 14.
Mae’r dystiolaeth a gawsom wedi pwysleisio na fydd isafbris yn effeithiol ar ei ben ei hun, a bod angen ystod o fesurau i fynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol. Credwn ei bod yn werth cymryd camau mewn perthynas â rhai o’r mesurau ychwanegol a nodwyd gan randdeiliaid, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol bod rhybuddion iechyd yn seiliedig ar dystiolaeth gan gorff rheoleiddio annibynnol yn cael eu rhoi ar labeli pob cynnyrch alcohol, a chyfyngu ar hysbysebu alcohol. Rydym ni'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i ymchwilio'n llawn i'r holl gyfleoedd, gan gynnwys pwyso am gamau gweithredu ar lefel y DU, i sicrhau bod set gynhwysfawr o fesurau ar waith i leihau niwed oherwydd alcohol.
I gloi, yn gyffredinol, rydym, fel pwyllgor, yn croesawu'r cynigion yn y Bil, ac rydym o'r farn y bydd y Bil yn cyfrannu at y dull strategol ehangach o fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Am y rheswm hwn, rydym yn argymell bod y Cynulliad yn derbyn yr egwyddorion cyffredinol. Diolch yn fawr.