7. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:20, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Felly, gwnaethom adrodd ar y Bil hwn ar 5 Mawrth a gwnaethom chwe argymhelliad i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rwy'n gobeithio bod ein hadroddiad yn ddefnyddiol i Aelodau'r Cynulliad wrth wneud penderfyniadau ar y Bil hwn. Mae ystyried hawliau dynol yn un o'r gofynion pwysig wrth asesu materion cymhwysedd deddfwriaethol. O ystyried hyn, mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â materion hawliau dynol yng nghyd-destun adran 16 o'r Bil, ac mae'r adran hon yn galluogi swyddogion awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre o dan adrannau 13, 14 a 15 o'r Bil i gymryd

'personau eraill o'r fath...y mae'r swyddog yn eu hystyried yn briodol'.

Yn ystod ein gwaith craffu, gwnaethom ystyried ehangder yr ymadrodd hwn, ac yn arbennig i sicrhau na chaiff y pŵer yn adran 16 ei gamddefnyddio. Nodwyd yn Neddf Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984—PACE—fod cod B yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog sy'n mynd i mewn i fangre gyflwyno ei hun ac unrhyw un sydd gydag ef. Ar y llaw arall, o dan adran 16(2) o'r Bil hwn, y cyfan y mae'n rhaid i'r swyddog wneud yw

'hysbysu'r meddiannydd o enw'r swyddog'.

Ni welwn unrhyw reswm paham na ddylai gofyniad o'r fath fod yn gymwys i bersonau eraill sy'n dod gyda'r swyddog i'r safle. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi argymell bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno gwelliant i adran 16 o'r Bil i'w gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd gael gwybod enw'r personau sydd gyda'r swyddog pan fyddant yn mynd i mewn i'r safle. Credwn y dylid gosod dyletswydd ar y swyddog i roi sylw i ganllawiau Llywodraeth Cymru. Mae ein hail argymhelliad, felly, yn awgrymu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno gwelliannau i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau ar arfer yr holl bwerau a'r dyletswyddau o dan y Bil ac i sicrhau bod y Bil yn cynnwys dyletswyddau priodol i roi sylw i'r canllawiau hynny. Fel yn achos ein gwaith craffu ar bob Bil, rydym yn ystyried y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil hwn a'r hyn sydd ar ôl ar gyfer is-ddeddfwriaeth.

Bydd Aelodau yn ymwybodol, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet a Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon eisoes wedi ei ddweud, fod yr isafbris uned ar gyfer alcohol yn cael ei osod gan ddefnyddio pŵer gwneud rheoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Drwy roi'r isafbris uned yn y rheoliadau, byddai'n golygu na allai Aelodau'r Cynulliad gyflwyno gwelliannau i'r Bil i osod pris uwch neu is na'r hyn a awgrymwyd. Yn yr unig ddewis a fyddai ar gael i Aelodau'r Cynulliad fyddai derbyn neu wrthod yr isafbris uned fel y nodir yn y rheoliadau, oherwydd ni ellir eu diwygio. Ac, fel y cyfryw, rydym ni'n credu y gallai'r dull hwn mewn gwirionedd gyfyngu ar bŵer y ddeddfwrfa. Rydym ni'n credu felly y byddai'n well gosod yr isafbris uned ar wyneb y Bil a rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio'r ffigur hwnnw gan ddefnyddio rheoliadau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn uwchgadarnhaol. Yn ein barn ni, byddai hyn yn arwain at ddadl lawer mwy trylwyr ar egwyddor ganolog y Bil, sef yr hyn y dylai'r isafbris uned ar gyfer alcohol fod. Mae argymhellion 3 a 4 yn ein hadroddiad yn adlewyrchu ein safbwynt ar y pwyntiau hyn.

Wrth wneud argymhelliad 3, gwnaethom nodi sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch gwelliannau deddfwriaeth sylfaenol drwy is-ddeddfwriaeth, sef pwerau Harri VIII, fel y'u gelwir. Mae'r pwyllgor hwn wedi mynegi pryder am y defnydd gormodol o bwerau o'r fath yn gyson. Rydym wedi derbyn bod yna amgylchiadau lle maent yn cynrychioli cyfaddawd synhwyrol a phriodol, ar yr amod eu bod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Nid ydym felly yn ei hystyried yn briodol i ddadlau y dylai materion sylweddol o bolisi cyhoeddus gael eu neilltuo i bwerau gwneud rheoliadau oherwydd efallai y bydd angen newid y polisi yn y dyfodol ac oherwydd nad yw deddfwrfeydd yn hoffi pwerau Harri'r VIII. Dylid penderfynu a yw mater yn ymddangos ar wyneb y Bil gan ei arwyddocâd polisi yn hytrach nag a yw'n bosibl y bydd angen ei newid neu beidio yn y dyfodol.

Hoffwn gloi, felly, drwy grynhoi ein barn ar gynnwys enghreifftiau darluniadol ar wyneb y Bil, ac ar gynnwys cymal machlud. Gallwn weld rhinwedd mewn cynnwys enghreifftiau darluniadol o gyfrifiadau o'r isafbris alcohol perthnasol ar wyneb y Bil. Fodd bynnag, ein barn ni oedd y gallai fod yn ddryslyd pe byddai'r isafbris uned wedi'i gynnwys yn y rheoliadau a'i fod yn wahanol i'r gwerth a ddefnyddir yn yr enghraifft ddarluniadol. Nid yw'n glir ychwaith pam nad oes enghraifft ddarluniadol wedi'i chynnwys, mewn gwirionedd, ar gyfer 7.1. Rwy'n sylwi bod Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, wedi codi ac ymdrin â'r mater hwn yn ei gyfeiriadau at hygyrchedd, ac, wrth gwrs, y cydbwysedd rhwng y dehongliad o hygyrchedd o'i gymharu â'r pryderon a godwyd gyda'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol o ran dryswch posibl.

Yn gyffredinol, nid ydym o'r farn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi esbonio'n ddigon clir pam y mae'n meddwl ei bod orau ac yn angenrheidiol rhoi enghreifftiau darluniadol ar wyneb y Bil yn hytrach na dewis amgen—[torri ar draws.] Mae'n flin gen i. Iawn.