Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 13 Mawrth 2018.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton.
Yn dilyn ein hadroddiad yn y Pwyllgor, mae llawer o sefydliadau wedi ysgrifennu ataf, ynghyd ag etholwyr, â phawb yn gwrthwynebu'r isafbris uned. Felly, ni allaf rannu yn y cynsail mai cyflwyno isafbris uned yw'r ffordd gywir i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Ni fydd gwneud alcohol yn ddrutach yn atal pobl rhag yfed yn ormodol, a cheir y canfyddiad ei fod yn annheg ac yn cosbi'r rhai hynny sy'n yfed mewn ffordd gyfrifol, yn enwedig y rhai hynny ar incwm isel. Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos mai'r grŵp mwyaf o bobol sy'n goryfed mewn pyliau yw'r bobl canol oed sy'n ennill llawer o arian ac, yn ôl Arolwg Iechyd Cymru, mae 47 y cant o'r bobl lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn yfed mwy na'r swm a argymhellir ac mae 28 y cant o'r lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn goryfed mewn pyliau. Roedd tri deg pedwar y cant o ddynion a 28 y cant o fenywod wedi yfed mwy na'r terfynau a argymhellir ar un diwrnod o leiaf yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Mae oedolion sy'n byw mewn aelwydydd sydd yn y grŵp incwm uchaf ddwywaith yn fwy tebygol o yfed yn drwm o'u cymharu ag oedolion yn y braced incwm isaf. Roedd tystiolaeth ar ymddygiad prynu a gyflwynwyd i Bwyllgor Iechyd a Chwaraeon Senedd yr Alban yn dangos y rhagwelir y bydd yfwyr niweidiol yn y cwintel incwm uchaf yn prynu 80 o unedau yr wythnos o alcohol rhad. Ni fydd cynyddu prisiau yn gwneud fawr ddim i atal y bobl hyn. Mae'r bobl hynny sydd o blaid isafbris uned ar gyfer alcohol yn aml yn cyfeirio at Ganada fel enghraifft wych o'r polisi'n gweithio, ond dengys tystiolaeth o British Columbia, rhwng 2002 a 2011, bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol wedi cynyddu, mewn gwirionedd, fel y gwnaeth derbyniadau i ysbytai a briodolir i alcohol. Dylem fod wedi dysgu o'r mesurau i reoli tybaco nad yw cynyddu prisiau yn atal ysmygwyr trwm; y cyfan mae'n ei wneud yw eu gwneud nhw'n dlotach. A'm pryder i yn y fan yma bob amser yw trafferthion plant mewn teulu lle mae rhieni yn yfed yn drwm. Yn aml, gyda chynnydd ym mhris alcohol, mae'r plant yn mynd heb bethau hanfodol, ac mae ganddynt ansawdd bywyd tlotach, gan felly gynyddu anghydraddoldeb.
Mae arnaf i ofn y bydd isafbris uned yn gwneud dim ond arwain at fwy o elw i'r archfarchnadoedd, ac na fydd yn gwneud llawer i annog yfed yn gyfrifol. Mae pryderon a amlygwyd gan y Ganolfan Huggard y gallai deddfwriaeth o'r fath achosi i'r bobl hynny sy'n cael trafferthion â chaethiwed i alcohol gael eu gwthio tuag at gyffuriau anghyfreithlon rhatach sydd ar gael yn rhwydd, fel sbeis. Hefyd, ceir pryder y gallai'r ddeddfwriaeth hon sbarduno symudiad at farchnad anghyfreithlon ar gyfer alcohol, fel y gwelwyd gyda'r fasnach tybaco, sydd wedi gweld y fasnach mewn sigaréts ffug sy'n cynnwys cemegau niweidiol iawn yn ffynnu.
Mae'n rhaid inni hefyd ystyried y ffaith bod yna fanteision iechyd i yfed alcohol yn gyfrifol, ac mae mwy na 100 o astudiaethau wedi dangos bod yfed un neu ddwy o unedau o alcohol y dydd, mewn gwirionedd, yn gallu lleihau'r risg o ddatblygu clefydau cardiofasgwlaidd gan gymaint â 45 y cant. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod y gall yfed mwy na'r hyn a argymhellir gynyddu eich risg o glefyd yr afu, gall niweidio eich calon a chynyddu eich siawns o ddatblygu rhai mathau o ganser. Mae'n gydbwysedd y mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei reoli, ond yn anffodus, mae sawl un nad ydynt yn gwneud hynny.
Rwy'n cytuno â Llywodraeth Cymru bod yn rhaid inni wneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r cannoedd o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol a'r degau o filoedd o dderbyniadau i ysbytai sy'n gysylltiedig ag alcohol bob blwyddyn. Nid isafbris uned, yn fy marn i, yw'r ffordd o wneud hynny. Mae'n rhaid i ni addysgu'r cyhoedd yn well am niwed alcohol, a helpu'r rhai hynny sy'n gaeth i alcohol yn well, ond nid cosbi'r rhai sy'n yfed yn gyfrifol. Diolch.