7. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:42, 13 Mawrth 2018

Fel roeddwn i'n ei ddweud, mae angen perswadio'r cyhoedd am effeithlonrwydd a thegwch yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud. Mae eisiau edrych yn fanwl ar y casgliad yma y byddai cyflwyno'r Mesur ond yn costio £3 y flwyddyn i yfwr cymedrol—£3 y flwyddyn. Ni allwn ni anwybyddu senarios lle gallai'r Ddeddf daro mwy o lawer ar yfwyr cymedrol sydd ag incwm is, ac sydd, o'r herwydd, ar hyn o bryd, yn dewis diodydd rhatach, fel rydym ni wedi clywed yn cael ei grybwyll gan Aelodau eraill. Yn ychwanegol, efo canolfan Sheffield yn awgrymu mai dim ond 2.4 uned yn llai fyddai'r yfwr cymedrol yna yn ei yfed mewn blwyddyn, mae angen i'r Llywodraeth brofi bod y gost ychwanegol o werth iddyn nhw o ran eu hiechyd.

Mae'n amlwg, serch hynny, bod y ddeddfwriaeth yma wedi'i llunio yn bennaf i dargedu yfwyr peryglus, a mwy felly yfwyr niweidiol. Mae yna dystiolaeth gryf iawn, heb os, y gallai fo arwain at ostyngiad sylweddol yn y defnydd alcohol gan y grwpiau yma. Mae hynny yn beth da. Rydw i'n siŵr y gallem ni gytuno ar hynny, ond—ac mae yna 'ond' yma—eto, mae yna ofnau y gallai rhai o'r defnyddwyr alcohol hynny droi at gyffuriau eraill. Eto, mae angen i ni fod yn gwbl eglur am y dystiolaeth. Mi fyddwn ni angen sicrwydd y byddai rhagor o adnoddau yn cael eu buddsoddi mewn helpu'r defnyddwyr yna, eu helpu nhw i frwydro yn erbyn eu camddefnydd o alcohol a'r effaith y mae hynny yn ei gael ar eu teuluoedd nhw, ar eu plant nhw. Ni allwn ni edrych ar gyflwyno cymhelliad ariannol i drio cael pobl i yfed llai heb ystyried yr holl ystod o wasanaethau cefnogi sydd angen eu datblygu a'u buddsoddi ynddyn nhw hefyd.

Sy'n dod â ni at fater arall: drwy godi prisiau rhai diodydd, mi fydd cynhyrchwyr a manwerthwyr yn rhydd i wneud rhagor o elw. Rydw i'n credu bod yn rhaid i'r Llywodraeth amlinellu llwybr tuag at sefyllfa lle gellid cael gafael ar yr arian ychwanegol sydd yn newid dwylo er mwyn gallu gwneud y buddsoddiad angenrheidiol mewn gwasanaethau taclo camddefnydd a helpu'r bobl hynny sydd yn yfed gormod o alcohol. Y gwir amdani, rydw i'n meddwl, ydy mai'r ffordd mwyaf effeithiol i wneud beth rydym ni'n trio ei wneud yn fan hyn fyddai i ni yng Nghymru gael pwerau i drethu alcohol. Mi allwn ni wedyn ailddiffinio yn llwyr, os mynnwn ni, sut y mae trethu alcohol yng Nghymru yn gweithio, a helpu tafarndai, o bosibl, os ydym ni eisiau. Gallwn drethu a thargedu diodydd volume uchel sydd yn uchel eu canran o alcohol, fel y seidr di-afal rydym wedi clywed yn cael ei grybwyll, tra'n cadw'r arian yn y pwrs cyhoeddus. 

Ac efo'r ddadl yna ynglŷn â'r angen inni yng Nghymru gael y pwerau i weithredu fel rydym ni wir angen ei wneud, fe wnaf i orffen, Llywydd. Deddfwriaeth yn erbyn y cloc ydy hwn, a hynny oherwydd yr hyn y rhybuddiom ni ar y meinciau yma ynglŷn ag o ar y pryd, sef bod Deddf Cymru, Deddf San Steffan, a ddaeth i rym yn erbyn ein hewyllys ni, yn tynnu y pwerau a  oedd gennym ni i ddeddfu yn y maes yma oddi arnom ni yn y dyfodol agos. Os ydym am weithredu, rydym ni'n gorfod gweithredu rŵan, neu golli'r hawl. Rydym ni yn cefnogi'r egwyddor. Beth rydym ni angen bod yn sicr ohono fo ydy ein bod ni yn cymryd y camau cywir i warchod iechyd a buddiannau eraill ein dinasyddion ni yma yng Nghymru. Senedd Prydain sydd wedi ein rhoi ni mewn cornel.