Gwasanaethau Rhewmatoleg yng Nghanol De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:30, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Fe fyddwch yn gwybod bod galw wedi bod ers tro am wasanaethau rhewmatoleg pediatrig arbenigol yn y rhanbarth. Ac yn wir, Cymru yw'r unig wlad yn y DU ar hyn o bryd nad oes ganddi wasanaeth arbenigol ar gyfer rhewmatoleg pediatrig. Fe fyddwch hefyd yn gwybod y bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cyfarfod ar 27 Mawrth i drafod y mater hwn a'r galwadau helaeth a fu am ryw fath o ganolfan genedlaethol ar gyfer y rhan helaeth o Gymru, wedi'i lleoli yng Nghaerdydd o bosibl. Rwy'n gobeithio y gallwch gyfleu iddynt y gefnogaeth drawsbleidiol y mae'r alwad hon wedi'i chael yn y Cynulliad, ac y dylai Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ystyried yr alwad fel mater o frys pan fyddant yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn.