Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 14 Mawrth 2018.
Rwy'n cefnogi cwestiwn David Melding, ond roeddwn hefyd yn bryderus iawn wrth glywed gan Gofal Arthritis y bydd yr unig arbenigwr ar arthritis gwynegol pediatrig yng Nghymru—un o fy etholwyr, Jeremy Camilleri, sy'n gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru—yn ymddeol o fewn y ddwy flynedd nesaf. Rwyf wedi cyfarfod ag ef i drafod hyn. Ac yn amlwg, bydd yn eithaf anodd dod o hyd i rywun i gymryd ei le, yn fy marn i. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o unrhyw gynlluniau i gynllunio ar gyfer ei olynydd?