Gwasanaethau Rhewmatoleg yng Nghanol De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 1:33, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, fel y dywedais, mae hwn yn faes o'r adolygiad gwasanaeth sy'n mynd rhagddo. Felly, bydd adolygiad Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn ein cynorthwyo i ddeall, yn ogystal â chyfrifoldebau mwy cyffredinol y byrddau iechyd a nodais yn rhan gyntaf fy ateb gwreiddiol i'r cwestiwn. Felly, mae hyn yn ymwneud â deall beth sydd arnom ei angen, pwy sy'n gyfrifol, ac yna sicrhau bod y ddarpariaeth honno'n digwydd. Felly, rwy'n hyderus fod y gwasanaeth iechyd yn ystyried y mater hwn o ddifrif, a dylai gynhyrchu cynllun real a pherthnasol ar gyfer gwella. Oherwydd rwy'n cydnabod, fel Aelodau eraill, fod hwn yn faes y gellir ei wella.