Sepsis

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 1:34, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Mae mynd i'r afael â sepsis yn parhau i fod yn flaenoriaeth o ran diogelwch cleifion yng Nghymru, gyda'r gwaith yn mynd rhagddo drwy raglen wella 1000 o Fywydau, y gwn y bydd yr Aelod yn ymwybodol ohoni. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth a sicrhau bod sepsis yn cael ei ganfod yn gynnar a bod cleifion â sepsis yn cael eu trin yn gynnar. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys adolygu gan gymheiriaid, yn ogystal â gwella arferion y tu allan i ysbytai acíwt.