Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 14 Mawrth 2018.
Gwnaf. Mae byrddau iechyd Aneurin Bevan, Cwm Taf a Phowys, sy'n gyfrifol am amryw o ardaloedd trefol, ardaloedd y Cymoedd ac ardaloedd gwledig Cymru, yn awyddus i dreialu cynllun peilot o'r math hwn. Maent wedi cael eu comisiynu i dreialu prototeipiau timau nyrsio ardaloedd cymdogaeth gan adeiladu ar fodel Buurtzorg. Ar hyn o bryd, maent yn gweithio ar eu cynlluniau ar gyfer y cynlluniau peilot hyn, gyda'r nod o'u rhoi ar waith yn gynnar yn y flwyddyn ariannol newydd.