Gwasanaethau Adsefydlu Cyffuriau ac Alcohol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:06, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae camddefnyddio cyffuriau yn broblem enfawr yn ein carchardai—y prif reswm pam mae carcharorion yn troseddu yn y lle cyntaf ac un rheswm pam mae llawer yn aildroseddu. Er gwaethaf ymdrechion gan staff y carchardai, sy'n gweithio'n galed iawn i ddarparu profion cyffuriau gorfodol a chynorthwyo carcharorion i roi'r gorau i ddefnyddio cyffuriau, mae'r gwaith hwn weithiau'n mynd yn ofer gan fod carcharorion, pan gânt eu rhyddhau, yn aml yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain wrth gatiau'r carchar, heb dai na chymorth parhaus. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r broses o adsefydlu pobl sy'n gaeth i gyffuriau yn y system cyfiawnder troseddol er mwyn mynd i'r afael â chyfraddau aildroseddu?