Gwasanaethau Adsefydlu Cyffuriau ac Alcohol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:08, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi ymweld â gwasanaeth Kaleidoscope, ac rwy'n cydnabod ymroddiad y staff yno. Unwaith eto, gan ddychwelyd at rai o'r materion eraill rydym wedi eu trafod, nid yw gwella'n daith syml, un cam. Bydd yn wahanol i wahanol bobl. Rwy'n gyfarwydd â'r digwyddiad parkrun. Ni fyddaf yn ymuno â chi—fe ddywedaf hynny'n glir—ddydd Sadwrn, ond mae amrywiaeth o wahanol ffyrdd i gynorthwyo'r broses o wella, gwahanol ddiddordebau a gwahanol ddifyrion. Ond hefyd, mae'n ymwneud â gofalu am eich iechyd corfforol yn ystod y broses honno o wella. Felly, rwy'n cydnabod y gwaith hwnnw. Maent yn bartner gwerthfawr, a gomisiynwyd gan y byrddau cynllunio ardal sy'n darparu'r gwasanaethau hynny, ac maent yn fodel da o ran beth sy'n creu gwasanaeth llwyddiannus.