Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 14 Mawrth 2018.
Wel, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Aelod ysgrifennu ataf gyda'r manylion a ddarparwyd ganddo a byddaf yn fwy na pharod i edrych arnynt, gan fy mod yn disgwyl i'r byrddau cynllunio ardal gomisiynu gwasanaethau yn briodol a sicrhau bod yr angen sydd gennym yn cael ei ddiwallu'n briodol, ac yn cael ei ddiwallu yn y lleoliad mwyaf lleol lle bo modd. Efallai y bydd adegau pan fydd angen gwasanaethau arbenigol y tu allan i Gymru, ond buaswn yn disgwyl i'r gwasanaethau rydym yn eu comisiynu ac yn darparu arian ar eu cyfer gael eu defnyddio'n briodol, a'u defnyddio i'r graddau mwyaf posibl.