Trosglwyddo Cleifion y GIG

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 2:11, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais â chartref gofal bach annibynnol  yn fy etholaeth, ac fe'm hargyhoeddwyd gan y perchennog ynghylch pwysigrwydd cydweithredu rhwng llywodraeth leol, y byrddau iechyd lleol ac eraill er mwyn sicrhau bod pob claf yn derbyn y gofal angenrheidiol. Nododd hefyd sut y gall y broses o drosglwyddo cleifion i leoliad gofal gwahanol effeithio ar y claf a'u teuluoedd, gan achosi straen ychwanegol ar adeg sydd eisoes yn adeg anodd. Mae'r gronfa gofal integredig yn annog gweithio mewn partneriaeth rhwng pobl sy'n cefnogi pobl sydd ar fin gadael gofal a phobl sydd mewn perygl o fynd i ysbytai neu gartrefi gofal preswyl heb fod angen. Gyda'r cyn-Weinidog Rebecca Evans, ymwelais ag enghraifft wych yn fy etholaeth i, ym Malpas, sef Parklands. A all y Gweinidog amlinellu sut y gallwn ddefnyddio'r gronfa'n greadigol i sicrhau bod cleifion yn mynd i'r lleoliad gofal mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion?