Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 14 Mawrth 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, dengys ffigurau ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf fod cleifion ar wardiau acíwt, adsefydlu cymunedol a wardiau eraill wedi wynebu llai o oedi cyn symud ymlaen at y cam nesaf o ofal na'r oedi a wynebwyd ar wardiau iechyd meddwl. Yn wir, mae bron i 80 y cant o'r cleifion sydd wedi wynebu dros 26 wythnos o oedi yn gleifion ar wardiau iechyd meddwl. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â phroblem oedi wrth drosglwyddo gofal ar gyfer cleifion iechyd meddwl yng Nghymru, os gwelwch yn dda?