Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 14 Mawrth 2018.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rwy'n symud yn syth i'r bleidlais. Ac felly, mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar gwmnïau rheoli ystadau. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Hefin David. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, 11 yn ymatal, un yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd y cynnig.